Penderfyniad premiymau'r Dreth Gyngor i'w wneud ym mis Rhagfyr
Council Tax premiums decision to be made this December
Bydd Cyngor Sir Penfro yn penderfynu a ddylid cynyddu premiymau’r Dreth Gyngor ym mlwyddyn ariannol 2024/25 ar gyfer ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor, yn ei gyfarfod Cyngor llawn ar Ragfyr 14eg.
Yn yr un cyfarfod, bydd cynghorwyr hefyd yn ystyried Strategaeth Dai newydd yr awdurdod a'r sefyllfa gyllidebol ddiweddaraf.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, David Simpson, fod y penderfyniad i fod i gael ei wneud yng nghyfarfod mis Hydref y Cyngor, ond ei fod wedi'i ohirio er mwyn i aelodau ei drafod yn ogystal â Strategaeth Tai newydd ar gyfer y sir.
“Mae hwn yn faes cymhleth sy'n symud yn gyflym, a bydd gohirio tan fis Rhagfyr yn rhoi cyfle i Aelodau wneud penderfyniad yn seiliedig ar y wybodaeth ddiweddaraf,” meddai’r Cynghorydd Simpson.
Heddiw (dydd Mawrth, 19 Medi), adolygodd y pwyllgor trosolwg a chraffu polisi a chyn-benderfyniadau yr ymgynghoriad diweddar ar bremiymau'r Dreth Gyngor ar gyfer ail gartrefi a thai gwag hirdymor.
Dywedwyd wrth aelodau y pwyllgor fod ymgysylltiad yn dda, gyda 1,650 o ymatebion wedi'u derbyn, ynghyd â nifer fach o lythyrau.
Ar ôl trafodaeth gychwynnol cytunodd y pwyllgor i ystyried y mater ymhellach yn eu cyfarfod ym mis Hydref.