English icon English
Long course weekend

Cynlluniwch ymlaen llaw ar gyfer digwyddiad Long Course Weekend

Plan ahead for Long Course Weekend

Caiff trigolion ac ymwelwyr yn Sir Benfro eu hatgoffa y bydd ffyrdd ar gau yn ne’r Sir y penwythnos hwn fel rhan o ddigwyddiad Long Course Weekend.

Cynhelir y digwyddiad rhwng dydd Gwener, 30 Mehefin a dydd Sul, 2 Gorffennaf, ac anogir y rheiny sy’n bwriadu teithio i gynllunio yn unol â hynny.

Bydd Y Crofft yn Ninbych-y-Pysgod ar gau ddydd Gwener rhwng 4.30pm a 6.30pm ar gyfer Nofio Cymru, er y bydd trigolion Y Crofft yn dal i gael mynediad.

Bydd ffyrdd ar gau ar gyfer digwyddiad seiclo Wales Sportive (dydd Sadwrn, 1 Gorffennaf) a digwyddiad Wales Marathon (dydd Sul, 2 Gorffennaf).

Ar gyfer digwyddiad Wales Sportive, bydd sawl ffordd ar gau yn gynnar yn y bore ar hyd a lled de’r sir.

Mae’r digwyddiad yn dechrau ac yn gorffen ym Maes Parcio Salterns, Dinbych-y-pysgod.

lcw-overview-bike-day-2023-page-001

Gwiriwch y manylion llawn ar wefan Long Course Weekend lle gallwch chi wirio’r statws cau ar gyfer ardaloedd penodol hefyd.

Ddydd Sul, 2 Gorffennaf, bydd mwy o ffyrdd ar gau ar gyfer digwyddiad Wales Marathon, ac eto, caiff aelodau o’r cyhoedd eu cynghori i wirio’r union fanylion ar y wefan.

lcw-run-overview-2023-page-002

Mae digwyddiad Wales Marathon yn dechrau am 10am ym Maes Parcio Salterns.

Mae digwyddiad Wales Half Marathon yn dechrau ym Mhenfro am 12 canol dydd.

NID yw ffyrdd yr A477 a’r A40 yn cael eu heffeithio a byddant yn darparu mynediad o’r dwyrain i’r gorllewin trwy gydol dydd Sadwrn a dydd Sul, fel ei gilydd.

Bydd manylion am gau ffyrdd yn cael eu cyhoeddi ar one.network hefyd.

Darperir mannau croesi ar y ffordd, ac mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Long Course Weekend.

Mae lleoedd parcio ar gyfer y digwyddiad ar gael yn Ysgol Greenhill o 4pm ddydd Gwener (talu â cherdyn yn unig).

Mwy o fanylion am barcio: https://www.lcwwales.com/area/parking/