English icon English
Valero Music Festival 2024 winners with Pembrokeshire Music Service

Plant ysgolion cynradd yn taro'r holl nodau cywir mewn gŵyl gerddoriaeth boblogaidd

Primary school children hit all the right notes at popular festival of music

Bu dros 400 o blant ysgolion cynradd yn cymryd rhan yng Ngŵyl Cerddoriaeth Gynradd Valero Gwasanaeth Cerdd Sir Benfro'r penwythnos diwethaf.

Croesawodd Gwasanaeth Cerdd Sir Benfro ddisgyblion o bob rhan o'r sir i rannu eu doniau cerddorol gyda chynulleidfa a oedd wrth eu boddau yn Ysgol Caer Elen ar Chwefror 24.

Coronwyd Alice Thomas, disgybl wyth oed o Ysgol St Oswalds, yn enillydd cyffredinol yr ŵyl yn dilyn perfformiad rhagorol o Galop gan Charles Bohm ar ei ffidil.

Alice Thomas

Roedd y digwyddiad eleni yn cynnwys dosbarth newydd "Dewch i Chwarae," lle gallai dysgwyr ar ddechrau eu taith gerddorol ddod i rannu eu cerddoriaeth â'i gilydd.

Dywedodd Philippa Roberts, Pennaeth Gwasanaeth Cerdd Sir Benfro: "Roedd yn wych gwrando ar berfformiadau'r holl gerddorion ifanc, yn enwedig y rhai sy'n newydd i chwarae. Llongyfarchiadau i bawb wnaeth gymryd rhan am eu hymdrechion clodwiw.

“Mae gweithredu Cynllun Cerddoriaeth Newydd Cymru wedi galluogi Gwasanaeth Cerdd Sir Benfro i gynnig cyfleoedd dilyniant hanfodol i'n disgyblion sy'n cynnwys ein hensemble Ail Gamau newydd a gyflwynodd berfformiad rhagorol yn y cyngerdd. Da iawn bawb!”

Agorodd y cyngerdd Sbotolau wrth i 45 o chwaraewyr o bob ensemble Ail Gamau y Sir ddod at ei gilydd ar gyfer eu perfformiad cyhoeddus cyntaf. Dim ond ym mis Medi y dechreuodd yr ensembles hyn, ar gyfer plant ym Mlynyddoedd Tri i Chwech.

Ymhlith enillwyr y dosbarth agored a berfformiodd yn y Cyngerdd Sbotolau roedd Matthew Picton, o Ysgol Gelliswick, a berfformiodd Allegro Vivace gan Singelee ar ei Sacsoffon; Mali Macfarlane, a berfformiodd A Whole New World gan Alan Menken ar y Cornet ac Amber O'Connor, Ysgol Eglwyswrw, a berfformiodd Concerto gan O'Carolan ar y Delyn.

Perfformiodd Griff Nicholas, o Ysgol Casmael, She Sells Sanctuary gan The Cult ar y Drymiau ac enillwyr yr ensemble oedd Wolfgang Evans a Betsy Adamiec o Ysgol Golden Grove a berfformiodd ddeuawd Piano o Faraway gan Allan Bullard.

Ychwanegodd cydlynydd digwyddiadau Gwasanaeth Cerdd Sir Benfro, Miranda Morgan: “Rydym yn hynod ddiolchgar i Valero, fel bob amser, am noddi ein digwyddiad. Pan gynhaliwyd ein gŵyl gynradd ddiwethaf, byddai'r disgyblion Blwyddyn Chwech presennol wedi bod ym Mlwyddyn Dau, felly dyma'r tro cyntaf i bob un plentyn oedd yn bresennol berfformio yn yr ŵyl. Dylai pob un ohonynt fod yn falch iawn o'u hunain."

Canlyniadau Gŵyl Gerdd Gynradd Valero 2024 Gwasanaeth Cerdd Sir Benfro

Chwythbrennau

Gradd Gychwynnol:

1af – Seren Holder, Hafan y Mor

2il – Eva Frearson, Hafan y Mor

3yd – Eifion James, St Oswalds

CU – Jessica Lynch, Casmael

Gradd 1:

1af – Oliver Davis, Johnston

2il – Annabel Ladd, Croesgoch

3ydd – Evie Towe,  Llandudoch

Gradd 2:

1af – Angharad Chinn, MHCPS

2il – Autumn Shepherd, Coastlands

3ydd – Saphire Cook, MHCPS

Agored:

1af – Matthew Picton, Gelliswick

2il– Elin Rodriguez, Hook

3ydd – Sasha Aulehla-Atkin, Caer Elen

 

Pres:

Gradd Gychwynnol:

1af – Iolo Sims, Caer Elen

2il – Henry Woods, Llandudoch

3ydd – Polly Summers, YPD a Penny Ibberson-Senior, Roch

Pres Isaf Gradd 1:

1af – Isaac Phillips, Saundersfoot

2il – Aria White, Saundersfoot

3ydd – Thomas Codd, Glannau Gwaun ac Archie Llewellyn, Ysgol Gynradd Dinbych y Pysgod

CU – TJ Stewart, Glannau Gwaun

Trwmped a Chorned Gradd 1:

1af – Zoey Pyart, Prendergast

2il – Isla Griffiths, Saundersfoot

3ydd – Ella-Mae Kurby, MHCPS

CU – Freddie Coleman, YPD

Gradd 2:

1af – Henry Slade-Davies, Llanychllwydog ac Eilidh Frazer, Ysgol Gynradd Dinbych y Pysgod

Agored:

1af – Mali Macfarlane, Caer Elen

2il – Idris Leeming-Hicks, Caer Elen

3ydd – Elizabeth Davies, Saundersfoot,

CU – Elin Jones, Bro Ingli

 

Llinynnau

Gradd Gychwynnol:

1af – Ashley Cristobel, Prendergast

2il – Efa Britton, Johnston

3ydd – Bella Carrier, St Oswalds

Gradd 1:

1af – Lily Kingaby, Casmael

2il – Vivienne King, Hafan y Mor

3ydd – Celeste Watts, Roch

CU – Isla Griffiths, Saundersfoot

Gradd 2:

1af – Leila Powell

2il - Genula Wickramaarachichi, Prendergast

3ydd – Harrison Shepherd, Caer Elen

Agored:

1af – Alice Thomas, St Oswalds

2il – Nina Powell

3ydd – Chloe Jenkins Simms, Hafan y Mor

Piano a Thelyn

Gradd Gychwynnol:

1af – Gwen Porter

2il – Mia Rogers, Llandyfái a Ffion Fenrich, Cilgerran

3ydd – Alice Ng, Caer Elen

CU – Eva Allen, Llandyfái

Gradd 1:

1af – Poppy Hammersley, Brynconin

2il – Jessica Lynch, Casmael

3ydd – Annabel Ladd, Croesgoch

CU – Darcy Taylor - Llandyfái, George Thomas, Layla McGilloway - Llandyfái, Phoebe Ritchie - Caer Elen, Haydn Griffiths - Caer Elen, Noah Worrall, Scarlett Chandra – Caer Elen.

Gradd 2:

1af – Eva Evans, Cas-wis

2il – Millie Griffiths, Cas-wis a Cadi Haf Marshall-Jones, Bro Preseli

3ydd – Elsbeth Slade-Davies, Llanychllwydog

Agored:

1af – Amber O’Connor, Eglwyswrw

2il – Mischa Orford, Tafarn-sbeit

3ydd – Roberta Gale, YPD

Taro

Gradd Gychwynnol:

1af – Maddie Wright, Saundersfoot

2il – Harri George, Casmael

3ydd – Charlie Cheeseman, Saundersfoot

CU– Efan Rees, Casmael & Alfie Hughes, Ysgol Gynradd Dinbych y Pysgod

Agored:

1af – Griff Nicholas, Casmael

2il – Edward Batchelor, Caer Elen

3ydd – Max Griffiths, Caer Elen ac Alex Youngs, Johnston

CU – Owain James, Casmael a Sasha Aulehla-Atkin, Caer Elen

Ensemble

1af – Deuawd Piano Golden Grove (Wolfgang Evans a Betsy Adamiec)

2il – Deuawd Telyn Bro Preseli (Cadi Haf Marshall-Jones ac Elen Davies)

3ydd – Ensemble Piano (Roberta Gale, Seren Reason a Poppy Burton)