English icon English
Jon a Donna yn y fforwm Dyframaethu Un newydd

Plymio i gyfleoedd Dyframaeth

Diving into the opportunities of Aquaculture

Daeth Cynhadledd Dyframaeth gyntaf erioed Sir Benfro ag arbenigwyr, entrepreneuriaid sefydledig a'r genhedlaeth nesaf o newydd-ddyfodiaid ynghyd yr wythnos ddiwethaf.

Gwerthwyd pob tocyn i'r digwyddiad a gynhaliwyd yng Nghanolfan Arloesedd y Bont, Doc Penfro ar Chwefror 28, a denodd siaradwyr arbenigol o ystod eang o sefydliadau i drafod pob agwedd ar y diwydiant, ac ystyried cyfleoedd i Sir Benfro a Chymru.

Cymerodd gweithwyr proffesiynol, arbenigwyr, a newydd-ddyfodiaid ran mewn cyflwyniadau a thrafodaethau ynghylch pynciau amrywiol, o ffermio morol a chadwraeth, i ddeunydd pacio wedi'i wneud o wymon, a chanfyddiad y defnyddiwr.

Cynhaliwyd sgyrsiau trwy gydol y dydd gan fod y gynhadledd yn llwyfan hanfodol i drafod datblygiadau arloesol ac archwilio’r tueddiadau diweddaraf o ran arferion dyframaeth cynaliadwy.

Cefnogwyd y digwyddiad gan gyllid o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin trwy raglen Ffyniant Bro y DU, a chafodd ei ganmol gan y rhai a oedd yn bresennol am fod yn 'rhagorol'. Dywedodd un o'r mynychwyr: “Roedd yn ddiddorol ac yn bleserus iawn, ac yn hynod o afaelgar.”

Ychwanegodd un arall: “Roedd yn gynhadledd wych a oedd â siaradwyr amrywiol, roedd yn groesawgar iawn ac wedi'i threfnu'n dda. Diwrnod gwerthfawr iawn.”

Aquaculture event

Rhannodd unigolion ysbrydoledig eu profiadau personol o weithio yn y sector a chynigiwyd cipolwg ganddynt ar y posibiliadau amrywiol y gallai’r diwydiant Dyframaeth eu cynnig.

Dywedodd trefnydd y digwyddiad Donna Page, Swyddog Dyframaeth Cyngor Sir Penfro: “Daeth nifer dda i’r gynhadledd, a bu’n gyfle gwych i’r cynrychiolwyr rannu gwybodaeth a chlywed am heriau a llwyddiannau’r diwydiant pwysig hwn, nid dim ond yma yng Nghymru ond yn y DU ac Iwerddon.

“Mae dyframaeth yn ddiwydiant sy’n tyfu, ac mae ei botensial ar gyfer Sir Benfro yn enfawr.

“Mae angen i ni allu cefnogi ac ariannu busnesau sydd eisoes yn bodoli a rhai sy’n datblygu a all weithio gyda’r hyn sydd gan ein harfordir cyfoethog i’w gynnig.”

Roedd cwmnïau lleol yn gallu arddangos eu cynnyrch, a chymryd rhan mewn sesiynau rhwydweithio i feithrin cysylltiadau a rhannu syniadau a phrofiadau yn y DU ac Iwerddon.

Aquaculture event 2

Ychwanegodd Donna: “Roedd y digwyddiad yn llwyddiant mawr a gobeithio bod hwn yn gam tuag at feithrin partneriaethau a ffurfio llais ar y cyd ar gyfer y diwydiant.”

I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad neu ddyframaeth yn Sir Benfro cysylltwch à donna.page@pembrokeshire.gov.uk

Levelling Up blue bilingual

Funded by UK Govt logo-2

Ariennir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Capsiynau:

Rhai o'r cynhyrchion gwych sy'n gysylltiedig â dyframaeth a oedd yn cael eu harddangos yn y digwyddiad.

Yn y llun mae Donna Page, Swyddog Dyframaeth Cyngor Sir Penfro a Jon Parker, Arweinydd Datblygu Diwydiant Dyframaeth Cymru.

Clywodd y digwyddiad gan gyfres o siaradwyr.