Pobi Newid - Pobl ifanc ac arweinwyr cymunedol yn dod at ei gilydd yn Bake Off Mawr y Cyngor
Baking Up Change - Young People and community leaders come together at the Great Council Bake Off
Ymunodd pobl ifanc o bob rhan o Sir Benfro â chynghorwyr lleol, arweinwyr gwasanaethau, a chynrychiolwyr cymunedol ar gyfer seithfed Bake Off Mawr blynyddol y Cyngor yn ddiweddar.
Cafodd y digwyddiad ei gynnal yng Nghanolfan Ieuenctid Aberdaugleddau ddydd Iau 28 Awst 2025, a'i drefnu gan Gyngor Ieuenctid Aberdaugleddau, a daeth saith tîm at ei gilydd, pob un yn cynnwys person ifanc a gwneuthurwr penderfyniadau lleol.
Gyda'i gilydd, fe wnaethant ymgymryd â'r her o greu campwaith cyn ei gyflwyno i banel o feirniaid — hyn i gyd er mwyn cael hwyl, cydweithredu, ac ymgysylltu yn ystyrlon â phobl ifanc.
Yn beirniadu'r digwyddiad oedd: Y Cynghorydd Maureen Bowen, Cadeirydd Cyngor Sir Penfro, Henry Tufnell AS, Aelod Seneddol Canolbarth a De Sir Benfro a Steve Davis, Prif Swyddog Addysg Ieuenctid a Chymunedol.
Er bod y digwyddiad yn ymwneud â chreu cysylltiad a bod yn greadigol, roedd yn gystadleuol hefyd — ac ar ôl blasu a thrafod yn ofalus, cyhoeddwyd taw’r tîm buddugol oedd Banc Ieuenctid Sir Benfro.
Roedd eu cacen Diferion Lemon wedi syfrdanu'r beirniaid gyda'i blas a'r modd o’i chyflwyniad.
Rhoddwyd clod arbennig hefyd i Warcheidwaid Diogelu Iau Sir Benfro a'r Fforwm Oddi ar y Strydoedd gan dynnu sylw at y dalent a'r brwdfrydedd a ddangoswyd ganddynt.
Dywedodd y Swyddog Hawliau Plant a Phobl Ifanc, Nadine Farmer: "Rydyn ni mor falch o bawb a gymerodd ran. Nid dim ond pobi cacen yw bwriad y digwyddiad, mae'n ymwneud â chreu cysylltiad. Mae digwyddiadau fel hyn yn helpu pobl ifanc i deimlo fel bod pobl yn gwrando arnyn nhw, yn eu gwerthfawrogi ac mae’n rhoi cipolwg go iawn i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau o'r hyn sy'n bwysig iddyn nhw."
Mae'r Bake Off eisoes wedi profi ei werth, drwy greu cysylltiadau parhaol rhwng pobl ifanc a chynghorwyr.
Mae'r digwyddiad yn parhau i ddenu sylw ar draws Sir Benfro fel ffordd arloesol o chwalu rhwystrau a meithrin ymddiriedaeth rhwng cenedlaethau.
Am ragor o wybodaeth am y gwaith hwn cysylltwch â: Nadine.farmer@pembrokeshire.gov.uk Swyddog Hawliau Plant a Phobl Ifanc ar gyfer Cyngor Sir Penfro.