English icon English
Dechreuodd aelodau Cyngor Ieuenctid Aberdaugleddau ddathliadau'r Nadolig gyda'r gymuned leol.

Pobl ifanc Aberdaugleddau yn gwneud gwahaniaeth yn eu cymuned dros y Nadolig

Milford Haven young people making a difference in their community this Christmas

Cynhaliodd Cyngor Ieuenctid Aberdaugleddau, mewn partneriaeth â Chanolfan Ieuenctid Aberdaugleddau, ginio Nadolig i'w fwynhau gan bensiynwyr lleol yr wythnos diwethaf.

Ar 6 Rhagfyr, Canolfan Ieuenctid Aberdaugleddau oedd lleoliad y digwyddiad, sef syniad y cyngor ieuenctid.

Roedd aelodau'r cyngor ieuenctid eisiau cefnogi eu cymuned a gwnaethant gais llwyddiannus am gyllid gan Fanc Ieuenctid Sir Benfro a Chyngor Tref Aberdaugleddau.

O ystyried yr anawsterau ariannol presennol a'r unigrwydd cynyddol ymhlith llawer o unigolion, roedd y bobl ifanc yn cydnabod yr angen brys i gychwyn tymor y Nadolig mewn modd cadarnhaol. Fe wnaethon nhw gynnal digwyddiad y gallai'r gymuned edrych ymlaen yn fawr ato.

Daeth deugain o bensiynwr draw am bryd o fwyd dau gwrs hyfryd, a baratowyd gan y bobl ifanc, ac yna cafwyd gemau bywiog o bingo.

Christmas dinner

Dywedodd SCCH Rachel O'Neil: "Mae'r Cyngor Ieuenctid yn glod i Aberdaugleddau. Roedd yn hyfryd gweld yr hen a'r ifanc yn cymysgu ac yn chwerthin, ysbryd cymunedol ar ei orau."

Ychwanegodd Gareth Price, aelod o'r gymuned: "Dwi wedi cael diwrnod gwych, roedd hi mor hyfryd cael cwrdd â ffrindiau newydd."

Cadarnhaodd Nadine Farmer, Swyddog Hawliau Plant a Phobl Ifanc, ei balchder yn y grŵp, gan ddweud: "Allwn i ddim bod yn fwy balch o'r tîm a gynlluniodd y digwyddiad hwn o'r dechrau i'r diwedd. Fe wnaethant nodi angen critigol yn y gymuned a chymryd camau pendant. Mae hyn yn dangos yn glir bod gan bobl ifanc ran hanfodol fel dinasyddion gweithgar a'u bod wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth sylweddol."

Hoffai'r cyngor ieuenctid ddiolch o galon i Westy'r Lord Nelson, Dilly’s Chocolate, Redefined by Anna, Garej Broadway a Chaffi Spinnaker am eu cyfraniadau hael o wobrau bingo. Diolch hefyd i Weithiwr Ieuenctid ASB Sir Benfro a’r SCCH Rachel O'Neil am eu cymorth ar y diwrnod.

Llun: Dechreuodd aelodau Cyngor Ieuenctid Aberdaugleddau ddathliadau'r Nadolig gyda'r gymuned leol.