Pobl ifanc wrth wraidd digwyddiad Llais y Dysgwyr
Young people at centre of Voice of Learners event
Roedd digwyddiad arbennig yn canolbwyntio ar bobl ifanc y Sir a'u lleisiau yn cynnwys Comisiynydd Plant Cymru.
Ymgasglodd cynrychiolwyr o ysgolion uwchradd a Choleg Sir Benfro yn Neuadd y Sir yn nigwyddiad Llais y Dysgwyr, a drefnwyd gan y Cynghorydd Pat Davies a'r Swyddfa Hawliau Plant a Phobl Ifanc.
Ymunodd y Comisiynydd Plant, Rocio Cifuentes, â'r panel ar 5 Rhagfyr ynghyd â'r Cyfarwyddwr Addysg Steven Richards-Downes a'r Prif Seicolegydd Addysg Lorraine Silver.
Cadeirydd Cyngor Sir Penfro, y Cynghorydd Steve Alderman, wnaeth gadeirio’r digwyddiad lle gofynnwyd rhai cwestiynau anodd a phryfoclyd i'r panel gan y rhai hynny a oedd yn bresennol.
Arweiniwyd prif bwyslais y digwyddiad gan arolwg helaeth a gynhaliwyd gyda phobl ifanc Sir Benfro.
Pan ofynnwyd iddynt beth sy'n bwysig iddyn nhw, un o'r pryderon mwyaf oedd iechyd a lles meddyliol ac emosiynol. Roedd cwestiynau'n amrywio o fynediad i chwaraeon, diagnosis o anghenion ychwanegol a chymorth yn ystod arholiadau i effaith bwyta'n iach ac arferion technoleg.
Dywedodd y Cynghorydd Pat Davies: "Dechreuais y pwyslais hwn ar bobl ifanc a democratiaeth fel Cadeirydd y Cyngor ac mae wedi bod yn boblogaidd ac hefyd yn addysgiadol iawn i'r rheini sy’n mynychu ysgolion a ninnau fel Cynghorwyr.
“Rydym yn benderfynol o ymgysylltu â phobl ifanc a sicrhau bod eu pryderon a'u barn yn cael eu clywed. Mae digwyddiadau gyda siaradwyr gwadd fel hyn, a digwyddiad blaenorol gyda'r Comisiwn Etholiadol, yn rhoi'r cyfle hwnnw i ni.
“Mae parhau â'r gwaith pwysig hwn gyda'r Swyddfa Hawliau Plant a Phobl Ifanc yn beth cadarnhaol iawn ac rydym yn gobeithio croesawu llawer mwy o bobl ifanc i Neuadd y Sir i ddigwyddiadau yn y dyfodol."