English icon English
Teenagers at Haverfordwest Museum

Pobl ifanc yn mynd ar helfa drysor gyda gwahaniaeth, gan ymchwilio i dreftadaeth y dref

Teens take on treasure hunt with a difference delving into town’s heritage

Daeth digwyddiad ymgysylltu gwasanaeth ieuenctid â grŵp o bobl ifanc ynghyd wrth iddynt archwilio treftadaeth a chymuned Hwlffordd.

Wedi’i drefnu gan y Gweithiwr Ieuenctid Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Taylor Trueman, cynlluniwyd Helfa Dreftadaeth Hwlffordd i ymgysylltu â phobl ifanc nad ydynt efallai'n mynychu gweithgareddau clwb ieuenctid traddodiadol, ac roedd yn brofiad cynhwysol, hwyliog ac addysgiadol i’r 34 o bobl a gymerodd rhan.

Cafodd y digwyddiad gefnogaeth hanfodol gan y staff a’r gwirfoddolwyr yng Nghanolfan Ieuenctid Edge, a oedd i gyd yn helpu i hwyluso’r diwrnod. Roedd eu hymdrechion ar y cyd yn allweddol i lwyddiant y digwyddiad wrth ymgysylltu grŵp amrywiol o bobl ifanc â threftadaeth leol a meithrin ymdeimlad cryfach o falchder yn y gymuned.

“Treuliodd y bobl ifanc eu hamser yn archwilio straeon cudd a safleoedd treftadaeth allweddol o amgylch Hwlffordd – llawer yn ymweld â lleoedd am y tro cyntaf. O’r cyfranogwyr hyn, dywedodd 80% eu bod wedi dysgu rhywbeth newydd, a nododd 76% eu bod yn teimlo’n fwy ymwybodol ac yn gysylltiedig â’u tref. Mae hyn yn dangos yr effaith bwerus y gall dysgu sy’n seiliedig ar dreftadaeth ei chael ar ymdeimlad pobl ifanc o berthyn a hunaniaeth gymunedol,” meddai Taylor.

Dau o’r sylwadau gan bobl ifanc dan sylw oedd: “Rydw i wedi cerdded heibio rhai o’r lleoedd hyn o’r blaen ond doeddwn i byth yn gwybod beth oedden nhw. Nawr rwy’n teimlo fy mod i’n adnabod fy nhref yn well” a “Mynd i’r amgueddfa oedd fy hoff ran. Doeddwn i ddim yn meddwl y byddai hwn yn rhywbeth i fi, ond roedd yn ddiddorol iawn.”

Heritage Hunt 2

Cydweithiodd yr Helfa Dreftadaeth ag Amgueddfa Hwlffordd, a agorodd ar gyfer y digwyddiad yn unig ac a ddarparodd wobrau i’r helwyr treftadaeth.

“Roedd Amgueddfa Tref Hwlffordd wrth ei bodd yn cymryd rhan yn Helfa Dreftadaeth Hwlffordd. Roedd dwsinau o bobl ifanc â diddordeb yn ein harddangosfeydd a dewison nhw eu hoff arteffactau. Rwy’n siŵr eu bod nhw wedi dysgu llawer o’u hymweliad.” – Y CynghoryddSimon Hancock, curadur yn yr amgueddfa.

Yn garedig, rhoddodd hyrwyddwr cymunedol yr archfarchnad Morrisons luniaeth, ac roedd yr aelod lleol, y Cynghorydd David Bryan, yn bresennol gyda’i deulu.

“Mwynhaodd aelodau Canolfan Ieuenctid Edge gymryd rhan yn Helfa Dreftadaeth Hwlffordd yn fawr iawn. Roedd yn ffordd hwyliog i bobl ifanc fynd allan ac archwilio eu tref wrth ddysgu am ei hanes. Mae prosiectau fel hyn yn helpu i feithrin cysylltiadau cryfach rhwng pobl ifanc a’u cymuned,” ychwanegodd Steve Lewis, gweithiwr ieuenctid cymunedol yng Nghanolfan Ieuenctid Edge.

Drwy ddarparu gweithgareddau cadarnhaol, strwythuredig sy’n ymgysylltu â phobl ifanc yn ystyrlon, cynigiodd yr Helfa Dreftadaeth ddewisiadau amgen i ymddygiadau negyddol sy’n aml yn gysylltiedig â diflastod neu ddiffyg cysylltiad ac fe’i hanogodd bobl ifanc i ymfalchïo yn eu tref a buddsoddi’n gadarnhaol yn eu cymuned, gan gyfrannu at leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol.