English icon English
Young People: Carly Sharief, Ayden Jones, Isaac Roach, Ffion Price, Lateesha Boyd, Youth Worker Ell Lewis.
Photography by: Richard Hankinson

Pobl Ifanc yn Trawsnewid Tanffordd Hwlffordd gyda Murlun Bywiog sy’n Dathlu Ieuenctid a Chymuned

Young people transform Haverfordwest underpass with vibrant mural celebrating youth and community

Mae tanffordd a fu unwaith yn ddiflas yn Hwlffordd wedi cael ei drawsnewid gyda murlun bywiog a deniadol diolch i greadigrwydd a gwaith caled pump o bobl ifanc o grŵp Ymddiriedolaeth y Brenin, Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd, dan arweiniad y gweithiwr ieuenctid Ell Lewis.

Gyda chymorth grant Banc Ieuenctid, GD Harries & Sons, ac arian a godwyd drwy rafflau, gwerthu cacennau, a chynnal digwyddiadau bingo yn eu hysgol, cydweithiodd y grŵp â busnesau lleol a’r gymuned i wireddu eu gweledigaeth. Y canlyniad yw gwaith celf cyhoeddus trawiadol sydd nid yn unig yn ychwanegu ychydig o liw at y dref ond sydd hefyd yn cynrychioli treftadaeth Hwlffordd a lleisiau, profiadau, a balchder pobl ifanc Hwlffordd.

“Y prosiect hwn yw ein hetifeddiaeth”, meddai un cyfranogwr. “Rydyn ni wedi creu rhywbeth a fydd yn para sy’n cynrychioli pwy ydyn ni ac o le rydyn ni’n dod, mae’n eithaf anhygoel beth all paned o de a sgwrs arwain at.”

Er mwyn gwireddu eu gweledigaeth, cydweithiodd y grŵp â’r artist graffiti proffesiynol Lloyd, a arweiniodd weithdai yn cynnwys pobl ifanc, busnesau lleol, a grwpiau cymunedol. “Mae hwn wedi bod yn brosiect rydw i wedi bod wrth fy modd yn chwarae rhan ynddo, o’r dechrau i’r diwedd; mae’r bobl ifanc a wnaeth gymryd rhan yn destun balchder i’r dref ac roedd yn wych gweithio gyda nhw,” eglurodd Lloyd. “Roeddwn i wedi fy ryfeddu, nid yn unig gan y ffaith eu bod nhw wedi meddwl am y syniad, ond hefyd am eu bod nhw wedi codi’r arian ac yna wedi cymryd rhan yn y gwaith o beintio’r murlun hefyd. Yn rhy aml mae pobl yn awyddus i ddibrisio Hwlffordd, ond mae’r bobl ifanc hyn yn sicr yn mynd yn groes i’r duedd. Ardderchog bawb!”

“Mae’r murlun hwn yn fwy na gwaith celf yn unig – mae’n ddatganiad”, dywedodd Ell Lewis, gweithiwr ieuenctid yn Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd. “Mae’n adlewyrchu cysylltiad y bobl ifanc â’u cymuned, eu gwerthfawrogiad o waith ieuenctid, a’r effaith y mae gwasanaethau ieuenctid yn eu cael ar eu bywydau.”

Wedi’u hymgorffori yn y dyluniad mae elfennau personol sy’n arwyddocaol i’r artistiaid, gan gynnwys teyrnged weledol i’r system gofrestru ddyddiol a ddefnyddir yn eu sesiynau gwaith ieuenctid sy’n tynnu sylw at rôl hanfodol cefnogaeth emosiynol a chysylltiad yn eu datblygiad. “Dyma’n union beth sydd angen i ni ei weld ar ein ffordd i’r ysgol yn y bore” dywedodd un cyfranogwr. “Mae wedi rhoi gwên ar ein hwynebau, ac mae hyn yn bwysig i’n llesiant.” 

Mae pobl sydd wedi gweld y murlun wedi’i ganmol, ac mae llawer ohonyn nhw wedi dweud ei fod wedi trawsnewid ardal sydd wedi’i hanwybyddu yn fan lliwgar ac ysbrydoledig; “gobeithiwn mai dim ond y dechrau yw hyn”, dywedodd un preswylydd. “Mae’r grŵp wedi ychwanegu llawer iawn o liw i’w cymuned. Byddai’n wych gweld y prosiect yn parhau, ac i weld gweddill y twneli yn cael eu peintio hefyd.”

Youth project

Dywedodd Heidi Lewis o County Sports: “Mae’r prosiect yn wirioneddol fuddiol i’r dref ac rwy’n caru pa mor gynhwysol ydyw. Mae’n wych gweld y bobl ifanc yn cymryd perchnogaeth, ac mae wedi rhoi sgiliau gwerthfawr i’r cyfranogwyr gan gynnwys sgiliau cynllunio, dylunio, gwaith tîm, ac ymgysylltu â’r gymuned. Mae’n ysbrydoledig”

Dywedodd un cyfranogwr “cymerodd fy ffrindiau a minnau ran yn y gweithdy oherwydd ein bod ni’n mynd i ganolfan ieuenctid The Edge, mae’r ganolfan yn bwysig iawn i ni ac fe wnes i fwynhau gallu cymryd rhan yn fawr iawn. Rydw i wedi’i ddangos i’m teulu i gyd!"

Hoffai’r grŵp diolch i’r holl fusnesau annibynnol lleol ac aelodau’r gymuned a gefnogodd y prosiect trwy roddion ac ymdrechion cydweithredol. Mae eu cyfraniadau wedi helpu i droi gweledigaeth yn ddarn o gelf gymunedol ystyrlon a fydd yn para am amser maith.

Pobl ifanc: Carly Sharief, Ayden Jones, Isaac Roach, Ffion Price, Lateesha Boyd, ac Ell Lewis, y gweithiwr ieuenctid gyda Lloyd Roberts.

Ffotograffiaeth gan: Richard Hankinson