English icon English
Porthgain cynllun parcio 1

'Porthgain i Bawb' – cynllun newydd yn ceisio datrys problemau parcio

‘Porthgain for All’ – new scheme seeks to solve parking problems

Dechreuodd rhaglen ddwy flynedd yn ddiweddar gyda'r nod o ddod o hyd i atebion seilwaith i oresgyn pwysau parcio a thraffig ym mhentref arfordirol Porthgain a'r ardal ehangach.

Mae Porthgain, un o ardaloedd mwyaf poblogaidd ar gyfer twristiaeth yn Ngogledd Sir Benfro, wedi profi mwy o broblemau tagfeydd a rheoli traffig yn ystod y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i gynnydd yn nifer yr ymwelwyr.

Mae Cronfa Y Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu £248,000 i Gyngor Sir Penfro i ymgymryd â'r cynllun dwy flynedd, ar y cyd ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Pobol Porthgain. Mae £62,000 pellach o arian cyfatebol hefyd wedi'i nodi. 

Mae'r Cynghorydd Sir Lleol Neil Prior wedi bod yn gweithio'n agos gyda Pobol Porthgain, PCNPA a PCC i yrru'r prosiect yn ei flaen. 

Dywedodd y Cynghorydd Prior: "Mae hwn yn gyfle unigryw i'r pentref fynd i'r afael â rhai o'r materion sydd wedi cael eu hadrodd yn aml i mi dros y blynyddoedd diwethaf.

"Mae'n ganlyniad llawer o waith caled, ymgysylltiad rheolaidd a deialog gyda thrigolion Porthgain, ac er y gall newid fod yn anodd, penderfyniad y pentref yw beth y byddwn ni’n symud ymlaen ag ef yn y pen draw, a rôl yr awdurdodau yw cefnogi hynny.

"Rwy'n edrych ymlaen at barhau i weithio ochr yn ochr â’r grŵp trigolion - Pobol Porthgain – i roi rhywfaint o atebion cadarnhaol ar waith mewn ymateb i’r heriau sy'n wynebu cyrchfan boblogaidd i dwristiaid fel Porthgain."

Bydd y gwaith yn cael ei rannu'n ddau gam: dichonoldeb, ecoleg a nodi opsiynau (blwyddyn 1), ac yna nodi opsiwn a ffefrif ac adeiladu (blwyddyn 2).

Bydd y cynllun yn cael ei gefnogi gan ddwy astudiaeth barhaus: yr Astudiaeth Mynediad i'r Arfordir a Uwchgynllun Porthgain (astudiaeth annibynnol a ariennir gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro).

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Sinnett, Aelod Cabinet ar faterion Gwasanaethau Trigolion, y bydd gwaith yn dechrau'n fuan ar sefydlu data sylfaenol.

"Byddwn hefyd yn gweithio gyda'n partneriaid a'n trigolion lleol i ddeall y materion allweddol yn yr ardal, a pha opsiynau sydd ar gael," meddai. "Bydd hwn yn gyfle gwych i unrhyw un sydd â phrofiad o'r materion lleol gyfrannu at y cynllun, ac edrychwn ymlaen at glywed eu barn."