Prendergast yn dod ag ysgolion a sefydliadau at ei gilydd ar gyfer Wythnos Gyrfaoedd Gwyrdd
Prendergast brings schools and organisations together for Green Careers Week
Daeth Ysgol Gynradd Gymunedol Prendergast â disgyblion, ysgolion a sefydliadau at ei gilydd ar gyfer ei hail Ffair Gyrfaoedd Gwyrdd, a gynhaliwyd fel rhan o Wythnos Gyrfaoedd Gwyrdd.
Cynhaliwyd digwyddiad llai o faint y llynedd, ond tyfodd ffair 2026 i groesawu tua 20 o sefydliadau a thimau, gan roi cyfle i ddisgyblion gwrdd â phobl sy'n gweithio ym maes cadwraeth, bioamrywiaeth, gwyddor y môr, bwyd a ffermio, cynaliadwyedd, hinsawdd, dysgu yn yr awyr agored a rheoli tir.
Roedd disgyblion o Flynyddoedd 2 i 6 yn symud o amgylch neuadd yr ysgol mewn grwpiau bach, yn sgwrsio'n anffurfiol ag arddangoswyr, yn gofyn cwestiynau ac yn archwilio'r offer, yr adnoddau a'r enghreifftiau go iawn a oedd ganddynt.
Eleni, croesawodd Prendergast hefyd ddisgyblion o Ysgol y Dderwen, Caerfyrddin i gymryd rhan, gan ymestyn y cyfle y tu hwnt i'r ysgol a rhoi cyfle i blant o'r ddau leoliad ddysgu gyda'i gilydd.
Ymhlith y rhai a gymerodd ran roedd Canolfan Darwin, Cymbrogi, Llywodraeth Cymru, Prosiect Seagrass, Learning Through Landscapes, Ymddiriedolaeth Môr Cymru, Cadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro, Undeb Amaethwyr Cymru, Puffin Produce a Blas y Tir, Bluestone, Hogspital Sir Benfro, Gwasanaethau Afon a Gwlyptiroedd Salix, Pobl Tir Môr a Castell Howell.
Roedd timau o Gyngor Sir Penfro sy'n gweithio ym maes cadwraeth bioamrywiaeth, ymgysylltu â'r amgylchedd a Carbon Sero Net hefyd yn bresennol, ochr yn ochr â'r Cynghorydd Marc Tierney, Aelod Cabinet dros Bobl Ifanc a Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Dywedodd: "Roeddwn yn falch iawn o fynychu'r Diwrnod Gyrfaoedd Gwyrdd yn Ysgol Prendergast a oedd yn dangos sut y gallai ein swyddi amgylcheddol fod yn rhan bwysig o dirwedd gyflogaeth Sir Benfro yn y dyfodol. Mae deall ein hamgylchedd naturiol a gwella bioamrywiaeth nid yn unig yn cael effaith gadarnhaol ar ein hiechyd a'n lles ond trwy ecsbloetio ein hadnoddau naturiol yn sensitif fel trwy ynni gwynt neu dyframaethu gallwn greu swyddi newydd a sicrhau ein ffyniant yn y blynyddoedd i ddod."
Roedd y digwyddiad yn dilyn llwyddiant diweddar Prendergast wrth ennill Gwobr Rhagoriaeth Eco-Ysgolion Matt Bunt Cadwch Gymru'n Daclus ac roedd yn adlewyrchu ymrwymiad ehangach yr ysgol i weithio gyda phartneriaid i greu profiadau dysgu ystyrlon sy'n gysylltiedig â'r bobl, y sefydliadau a'r cyfleoedd o'u cwmpas.
Dywedodd y pennaeth Louise John: "Roedd yr awyrgylch yn y neuadd yn wych. Roedd ein disgyblion mor frwdfrydig, yn gofyn cwestiynau, yn archwilio'r hyn a oedd gan bobl a darganfod gyrfaoedd nad oedden nhw efallai erioed wedi dod ar eu traws o'r blaen.
"Rydym yn hynod ddiolchgar i bob sefydliad ac unigolyn a roddodd o’u hamser i fod yn rhan o'r bore. Mae rhoi cyfle i blant gwrdd â phobl sy'n gwneud y swyddi hyn yn gwneud eu dysgu yn llawer mwy ystyrlon ac yn eu helpu i weld yr ystod enfawr o bosibiliadau sydd ar gael iddynt, gan gynnwys yma yn Sir Benfro ac ar draws Cymru.
"Roeddem hefyd yn falch iawn o groesawu disgyblion o Ysgol y Dderwen eleni. Mae cydweithio yn rhan bwysig o'r hyn rydyn ni'n ei wneud yn Prendergast, ac rydym am barhau i rannu cyfleoedd fel hyn gydag ysgolion eraill yn ogystal â meithrin perthynas gref gyda'r sefydliadau sy'n cefnogi ein disgyblion."
Bellach yn ei hail flwyddyn, mae'r Ffair Yrfaoedd Gwyrdd wedi tyfu'n sylweddol, ac mae Prendergast yn gobeithio parhau i ddatblygu'r digwyddiad, gan gryfhau'r partneriaethau presennol ac agor cyfleoedd yn y dyfodol i ddisgyblion o ysgolion eraill.