English icon English
AS Mark Drakeford ac AS Adam Price yn Neuadd y Sir

Prif Weinidog Cymru ac Arweinydd Plaid Cymru yn ymweld â Sir Benfro

Wales’ First Minister and Plaid Cymru Leader visit Pembrokeshire

Daeth addysg a thai yn Sir Benfro dan y chwyddwydr gwleidyddol yr wythnos ddiwethaf wrth i Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, ac Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, ymweld â'r sir i weld sut mae'r Cytundeb Cydweithio yn cefnogi cymunedau ffyniannus.

Ymhlith y lleoedd yr ymwelont â nhw roedd Ysgol Caer Elen, Neuadd y Sir, ac Ystâd Cashfields yn Hwlffordd, lle prynodd Cyngor Sir Penfro 46 o dai y llynedd gydag arian gan Lywodraeth Cymru i'w defnyddio fel cartrefi fforddiadwy i bobl leol.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Penfro, y Cynghorydd David Simpson: "Mae bob amser yn bleser croesawu'r Prif Weinidog i Sir Benfro a'r tro hwn, Adam Price hefyd. Gwerthfawrogir eu cefnogaeth i weinyddiaeth a phobl Sir Benfro."

Roedd taith Mr Drakeford a Mr Price o gwmpas Ysgol Caer Elen yn Hwlffordd, a gafodd ei harwain gan y pennaeth Dafydd Hughes, yn cynnwys sesiwn holi ac ateb gydag aelodau Senedd yr ysgol ac ymweld â gwahanol ddosbarthiadau. Mae disgyblion yr ysgol, a dderbyniodd adroddiad rhagorol gan Estyn yn ddiweddar, yn cael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.  

Dywedodd Mr Hughes, ei bod yn bleser croesawu'r Prif Weinidog Mark Drakeford ac Adam Price i'r ysgol.

"Fe wnaeth yr ymweliad ein galluogi i rannu sut mae Ysgol Caer Elen wedi datblygu'n ysgol cyfrwng Cymraeg ffyniannus i blant 3-16 oed," meddai.

"Yn sicr, roedd ein disgyblion yn gwerthfawrogi'r cyfle i fynegi barn ynglŷn â rhagolygon gyrfa yn Sir Benfro yn y dyfodol a'r hyn sydd angen ei wneud i ddarparu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddi deniadol i bobl ifanc yn y sir.

"Mae'n bwysig bod ein gwleidyddion yn ymweld â'n hysgolion yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod disgyblion yn teimlo bod eu lleisiau'n cael eu clywed."

Yna, ymwelodd yr arweinwyr gwleidyddol â hen dai’r Weinyddiaeth Amddiffyn ar Ystâd Cashfields i weld caffaeliad sylweddol cyntaf tai Cyngor am fwy na chenhedlaeth.

Yn ogystal â gweld dau eiddo, fe wnaeth Mr Drakeford a Mr Price gyfarfod â dau denant, yr Aelod lleol, y Cynghorydd Anji Tinley, a staff amrywiol o'r tîm tai sydd wedi goruchwylio gwelliannau a dyraniadau i'r eiddo.

Rhan nesaf eu hymweliad oedd Neuadd y Sir yn Hwlffordd, lle trafodon nhw flaenoriaethau tai a blaenoriaethau cysylltiedig gyda'r Cynghorydd Simpson, y Prif Weithredwr Will Bramble, a phenaethiaid gwasanaeth.

Cyn gadael y Sir, fe wnaethon nhw hefyd ymweld â Chynllun Tai Gofal Ychwanegol Bro Preseli.

Penawd:  yn y llun y tu allan i Neuadd y Sir mae Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, y Cynghorydd David Simpson, Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, a Phrif Weithredwr Cyngor Sir Penfro, Will Bramble.