English icon English
Celtic Freeport welcomes its first permanent Chief Executive, Luciana Ciubotariu

Prif Weithredwr newydd, achos busnes a phresenoldeb digidol ar ei newydd weddi’r Porthladd Rhydd Celtaidd

Celtic Freeport takes shape with new CEO, business case and revamped digital presence

Mae Luciana Ciubotariu wedi’i phenodi’n Brif Weithredwr parhaol newydd y Porthladd Rhydd Celtaidd i sicrhau y bydd y prosiect ailddiwydiannu, datgarboneiddio ac adfywio hollbwysig hwn yn dwyn ffrwyth. Bydd yn dechrau yn ei swydd ym mis Mai 2024.

Daw Luciana â phrofiad helaeth i’r rôl hon, a hithau wedi bod yn rhan o dîm uwch-reolwyr Porthladd Rhydd Tafwys. Ar ôl gyrfa mewn uwch-rolau masnach, yn fwyaf diweddar i Lywodraeth y DU, mae ei phrofiad o ran ysgogi twf ym Mhorthladd Rhydd Tafwys, ynghyd â’r treiddgarwch strategol a enillodd yn sgil gyrfa a ganolbwyntiai ar fasnach a materion y llywodraeth, yn ei rhoi mewn sefyllfa unigryw i lywio’r Porthladd Rhydd Celtaidd.

Ochr yn ochr â’r penodiad hollbwysig hwn, mae’r Porthladd Rhydd Celtaidd wedi cwblhau’r rhan bwysig gyntaf yn ei ddatblygiad trwy gyflwyno’r achos busnes amlinellol i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. I nodi’r ffaith ei fod yn symud o’r cam ymgeisio at y cam datblygu, ac y bydd yn y pen draw yn symud ymlaen at y cam gweithredol, mae’r Porthladd Rhydd wedi ailwampio’i bresenoldeb digidol, ac yn awr ceir gwefan newydd a sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol (LinkedIn, X ac YouTube).

Consortiwm cyhoeddus-preifat yw’r Porthladd Rhydd Celtaidd ac mae ei bartneriaid yn cynnwys Associated British Ports (ABP), Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro a Phorthladd Aberdaugleddau, ochr yn ochr â datblygwyr ynni adnewyddadwy, cwmnïau ynni, diwydiannau, asedau arloesi, sefydliadau academaidd a darparwyr addysg. Mae’r Porthladd Rhydd Celtaidd yn cynnwys porthladdoedd Aberdaugleddau a Phort Talbot ac mae’n cwmpasu datblygiadau ynni glân ac asedau arloesi, terfynellau tanwydd, gorsaf ynni, peirianneg drom a’r diwydiant dur ledled De Orllewin Cymru.

“Rydw i’n teimlo’n gyffrous iawn ynglŷn ag arwain partneriaeth mor gryf a bwriadol ac rydw i’n edrych ymlaen at ddechrau yn fy swydd yn fuan a chydweithio gyda’r gymuned ehangach i gyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer De Cymru,” medd Luciana Ciubotariu, Prif Weithredwr y Porthladd Rhydd Celtaidd.

Ychwanegodd: “Bydd gan y Porthladd Rhydd Celtaidd rôl hollbwysig yn nyfodol yr economi werdd. Edrychaf ymlaen at greu rhagor o fomentwm y tu ôl i greu coridor buddsoddi gwyrdd ar draws De Orllewin Cymru. Mae’n brosiect cyffrous – bydd yn cyflymu arloesi yn y gadwyn gyflenwi ac yn annog buddsoddiad sylweddol mewn seilwaith porthladdoedd, gweithfeydd tanwydd amgen, canolfannau ynni adnewyddadwy a ffatrïoedd. Hefyd, bydd yn cyflymu’r broses o feithrin sgiliau ar gyfer diwydiannau gwyrdd newydd a datgarboneiddio cenedlaethol.”

“Mae’r Porthladd Rhydd Celtaidd yn fenter eithriadol, ac yn awr mae gennym fan cychwyn ar gyfer tîm eithriadol i’n harwain at y cam nesaf,” medd Roger Maggs MBE, Cadeirydd y Porthladd Rhydd Celtaidd.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Miller: Dirprwy Arweinydd, Aelod Cabinet dros Le, y Rhanbarth a Newid Hinsawdd: Mae'n bleser gan Gyngor Sir Penfro groesawu Luciana fel Prif Swyddog Gweithredol newydd y Porthladd Rhydd Celtaidd ar yr adeg gyffrous hon.

"Mae gan Luciana brofiad helaeth a hanes profedig o gyflawni gweledigaeth strategol gyda chanlyniadau llwyddiannus iawn. Bydd ei harweiniad a'i huchelgais yn sicrhau bod manteision y Porthladd Rhydd yn cael eu gwireddu'n llawn i'n cymunedau, ein busnesau ac economi ehangach Cymru.

"Ynghyd â'n partneriaid, rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Luciana ac yn dymuno'r gorau iddi yn y rôl newydd hon wrth iddi arwain y Porthladd Rhydd Celtaidd i lwyddiant parhaus."