English icon English
Adeilad gwyn y tu allan gyda ffenestri carreg a llwyd gyda dreif palmantog.

Pryniannau yn Aberllydan yn rhoi hwb i dai cymdeithasol

Boost to social housing with Broad Haven purchases

Bydd Cyngor Sir Penfro yn ychwanegu chwe chartref newydd at y cyflenwad tai cymdeithasol ac yn helpu i ddarparu tai addas ar gyfer pobl sydd ar y Gofrestr Cartrefi Dewisedig.

Mae cynlluniau i brynu chwe fflat newydd ag un ystafell wely yn Sandbanks, Aberllydan, wedi’u cymeradwyo gan yr Aelod Cabinet dros Gynllunio a Chyflenwi Tai, y Cynghorydd Jon Harvey.

Gellir ariannu’r caffaeliad hwn drwy’r Cyfrif Refeniw Tai ac mae’n alinio â Chynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai a gymeradwywyd.

Dywedodd y Cynghorydd Jon Harvey, yr Aelod Cabinet dros Gynllunio a Chyflenwi Tai: “Un o flaenoriaethau allweddol y weinyddiaeth hon yw cynyddu nifer y tai Cyngor sydd ar gael, a bydd y caffaeliad hwn yn ychwanegiad gwerthfawr.

“Ledled Sir Benfro, mae galw mawr am eiddo ag un ystafell wely, ac yn ogystal, mae Aberllydan yn ardal sy’n cael ei heffeithio gan y nifer uchel o ail gartrefi a llety gwyliau.

“Mae’r chwe fflat hyn mewn lleoliad dymunol, a bydd y polisi gosod tai lleol yn helpu i leddfu pwysau digartrefedd yn yr ardal a’r pwysau ar y rhestr aros am dai.”

Bydd Cyngor Sir Penfro yn llunio Polisi Gosod Tai Lleol ar gyfer dyrannu’r set gyntaf o dai ar osod, a bydd yn awyddus i glywed barn y gymuned ynghylch yr hyn y mae pobl yn ei ystyried yn gysylltiad lleol.

Cynhelir digwyddiad ymgysylltu cymunedol ynghylch y polisi gosod tai lleol yn Neuadd Bentref Aberllydan ddydd Iau 9 Tachwedd am 6pm.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch neges e-bost at y Tîm Cyswllt Cwsmeriaid neu ffoniwch y tîm ar 01437 764551, neu ewch i dudalen Facebook yr adran Gwasanaethau Tai.