Digwyddiad galw heibio busnes yn BIC gyda llawer o bobl yn sefyll o gwmpas

Pwyslais ar gynaliadwyedd yn y digwyddiad galw heibio i fusnesau'r wythnos hon

Sustainability focus at business support drop in this week

Rhannu:

Bydd Cynghrair Mentrau Cynaliadwy Sir Benfro yn cynnal eu Cyfnewidfa Cynaliadwyedd gyhoeddus gyntaf mewn digwyddiad galw heibio yr wythnos hon yng Nghanolfan Arloesi'r Bont.

Mae'r gynghrair, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o Borthladd Aberdaugleddau, Parc Gwyliau Bluestone a Chyngor Sir Penfro, yn dathlu ac yn cefnogi gwaith blaengar y rhanbarth yn y maes cynaliadwyedd, o ddatgarboneiddio cadwyni cyflenwi i wella arferion busnes cynaliadwy.

Gwahoddir cwmnïau sydd wedi eu sefydlu neu'r rhai sy'n ystyried dechrau busnes newydd i ymweld â Chanolfan Arloesi'r Bont, Doc Penfro ddydd Gwener, 30 Mai, 9am i 12pm i ddarganfod pa gymorth busnes sydd ar gael gan amrywiaeth o sefydliadau gan gynnwys Cyngor Sir Penfro, Busnes Cymru, Ffederasiwn y Busnesau Bach a Croeso Sir Benfro.

Mae'r Gynghrair Mentrau Cynaliadwy yn cynnig cymorth cynaliadwyedd am ddim gyda chenhadaeth i gyflymu gwaith cadarnhaol ledled y sir i greu Sir Benfro fwy cynaliadwy, gan gefnogi cymunedau ffyniannus sy'n cydbwyso anghenion pobl, y blaned a ffyniant ledled y rhanbarth.

Dywedodd Rhys Morgan, Rheolwr Lleihau Carbon Cyngor Sir Penfro: "Mae yna nifer o fusnesau sy'n gweithredu'n gynaliadwy yn y maes hwn y dylid eu dathlu a'u cefnogi. Rydyn ni’n cynnal digwyddiad galw heibio poblogaidd i fusnesau ar ddydd Gwener olaf pob mis. Mae'n wych gallu canolbwyntio ar gynaliadwyedd a lleihau carbon fis yma a chynnig cyfle i gwmnïau Sir Benfro ddarganfod mwy am y cymorth sydd ar gael, trafod heriau a rhwydweithio â phobl leol eraill o'r sectorau hyn.”

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost at alex.evans@pembrokeshire.gov.uk 

Bydd lluniaeth ar gael, cofrestrwch drwy Eventbrite https://www.eventbrite.co.uk/e/digwyddiad-galw-heibio-i-fusnesau-drop-in-business-support-networking-tickets-446057167997?aff=oddtdtcreator