English icon English
Delwedd cartŵn gyda dyn a menyw ffôn blwch tic pensil

Rhannwch eich barn ar Strategaeth ddrafft y Gymraeg

Draft Welsh Language Strategy needs your input

Mae ymgynghoriad wedi’i lansio mewn perthynas â Strategaeth y Gymraeg ar ei ffurf ddrafft ar gyfer y pum mlynedd nesaf.

Mae angen i Gyngor Sir Penfro gynhyrchu a chyhoeddi cynllun pum mlynedd sy’n nodi sut mae’r Gymraeg yn cael ei hyrwyddo yn Sir Benfro, fel rhan o Safonau’r Gymraeg.

Mae Strategaeth ddrafft y Gymraeg 2026–2031 yn cynnwys amcanion, targed a chynllun gweithredu y byddwn yn eu rhoi ar waith i’n helpu i gyflawni ein hamcanion. 

Gallwch hefyd weld Asesiad Effaith Integredig sy’n cynnwys ein hasesiad o’r effaith y bydd y strategaeth yn ei chael ar y Gymraeg a materion eraill. Bydd yr wybodaeth hon yn eich helpu i ateb cwestiynau am hyn. 

Gallwch rannu eich barn drwy lenwi’r dudalen we Dweud Eich Dweud.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, y Cynghorydd Guy Woodham: “Mae Strategaeth y Gymraeg yn canolbwyntio ar ddatblygu defnydd a gwelededd y Gymraeg ar draws y sir ac fe’i cefnogir gan ein strategaeth, Y Gymraeg mewn Addysg.

Manteisiwch ar y cyfle i ddweud eich dweud ar sut rydym yn cefnogi’r Gymraeg dros y pum mlynedd nesaf.”

Os hoffech gopi papur, ffoniwch ein Canolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 01437 764551 neu e-bostiwch policy@pembrokeshire.gov.uk fel y gallwn wneud trefniadau i anfon copi atoch.  

Bydd yr wybodaeth a gesglir yn ystod yr ymgynghoriad yn cael ei defnyddio i helpu aelodau i benderfynu beth fydd strategaeth derfynol y Gymraeg ar gyfer 2026–2031.  

Bydd y cabinet yn ystyried y rhain yn ei gyfarfod ym mis Gorffennaf 2026.  Bydd y cyngor yn gwneud penderfyniad terfynol yn ei gyfarfod ym mis Gorffennaf 2026.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ymatebion yw 5pm 22 Mawrth 2026.