teulu yn dal dwylo

Rhieni Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn annog rhagor o deuluoedd i ystyried mabwysiadu

Parents in Adoption Mid and West Wales urge more families to consider adoption

Rhannu:

Mae Rhieni Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru sydd wedi creu eu teuluoedd drwy fabwysiadu yn annog eraill i ystyried darparu cartref mabwysiadol sefydlog a diogel i blentyn mewn gofal yng Nghymru.

Yn ystod Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu (19-25 Hydref 2026), mae Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru yn gofyn i ragor o bobl ledled Cymru ystyried mabwysiadu wrth gynllunio eu teuluoedd. Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru yn dathlu ail flwyddyn ei ymgyrch Mae Nawr yn Amser Da, ac yn ysbrydoliaeth y mae storïau am yr eiliad dyngedfennol pryd penderfynodd rhieni ddechrau'r broses fabwysiadu.

Ar draws Cymru, mae ymholiadau cychwynnol ynghylch mabwysiadu wedi cynyddu 10% dros y flwyddyn ddiwethaf, sy'n newid cadarnhaol yn dilyn gostwng am sawl blwyddyn. Fodd bynnag, mae'r angen am deuluoedd mabwysiadol hefyd wedi tyfu. Cynyddodd nifer y plant sy'n aros i gael eu mabwysiadu 11%, gyda 310 o blant yn aros ar hyn o bryd.

Un rhiant sy'n gobeithio annog eraill i ystyried mabwysiadu yw Carys o Geredigion, a wnaeth fabwysiadu drwy Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Ychydig cyn priodi ei gŵr, Aled, dywedwyd wrth Carys na fyddai'n gallu cael plant yn naturiol heb driniaeth ffrwythlondeb. Ar ôl ystyried eu dewisiadau, penderfynodd y cwpwl ddilyn trywydd mabwysiadu a dechrau cynyddu eu teulu mewn ffordd wahanol.

Dywedodd Carys, rhiant mabwysiadol gyda Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru: "Pan ma'r plentyn 'na'n dod adre i dy ddwylo di, mae popeth werth e.

'Sdim byth amser perffeth. Yr amser perffeth yw pan ma' nhw getre."

Gwyliwch fwy o stori Carys yma (yn agor mewn ffenestr newydd).

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Bobl Ifanc a Lles Cenedlaethau'r Dyfodol, y Cynghorydd Marc Tierney: "Mae pob plentyn yn haeddu'r cyfle i dyfu i fyny yn teimlo'n ddiogel, yn cael ei werthfawrogi a'i garu. Mae gwaith rhanbarthol gwasanaeth Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn tynnu sylw at bwysigrwydd cysylltiad, perthyn a chefnogaeth drwy gydol y daith fabwysiadu.

"Yn ystod yr wythnos Mabwysiadu Genedlaethol dylem sicrhau bod ymrwymiad ar y cyd y rhanbarth i helpu plant i ddod o hyd i gartrefi parhaol, cariadus a sicrhau bod teuluoedd yn cael mynediad at y gefnogaeth sydd ei angen arnyn nhw i ffynnu ar flaen ein meddyliau.

"Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn mabwysiadu i gymryd y cam cyntaf hwnnw i astudio'r wybodaeth sydd ar gael ac ystyried y gwahaniaeth cadarnhaol gwirioneddol y gallen nhw ei wneud ym mywyd plentyn."

Dywedodd Eifion Burke, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru: "Mae Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu yn gyfle gwych i rannu a dathlu'r llawenydd sydd wedi dod i ran cynifer o deuluoedd yng Nghymru drwy fabwysiadu. Wrth i fi ddechrau fy nhaith fel Cyfarwyddwr, rwy' am achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r holl deuluoedd sydd wedi agor eu cartrefi, ac annog rhagor i ddod ymlaen.

Er bod heriau unigryw yn perthyn i fabwysiadu, gall hefyd fod yn siwrnai sy'n rhoi boddhad rhyfeddol. Rydyn ni am i bobol wybod nad oes neb sy'n mabwysiadu ar ben ei hun. Mae ystod eang o gymorth ar gael i blant a theuluoedd mabwysiadol ledled Cymru, gan gynnwys gwasanaethau therapiwtig, rhwydweithiau cyfoedion a chymorth cymunedol, gan helpu teuluoedd i feithrin perthnasoedd cryf, cadarnhaol a pharhaol.

Mabwysiadu yw un o'r ffyrdd mwyaf pwerus y gallwn ni newid dyfodol plentyn. Fy ngweledigaeth i yw bod Cymru yn parhau i arwain y ffordd o ran darparu gwasanaethau mabwysiadu o safon, gan sicrhau bod pob plentyn, teulu mabwysiadol, a theulu geni yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw nid yn unig i oresgyn heriau, ond i ffynnu a chyrraedd eu potensial llawn."

I gael rhagor o wybodaeth am fabwysiadu yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, ewch i wefan Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru.