English icon English
Hebryngwyr croesfannau ysgol

Rhoi diolch i hebryngwyr croesfannau ysgol wrth i’r gwasanaeth ddathlu 70 mlynedd o gadw plant yn ddiogel

School crossing patrol officers thanked as service celebrates 70 years of keeping children safe

Cynhaliwyd digwyddiad dathlu yn Sir Benfro’r wythnos hon i ddiolch i hebryngwyr croesfannau ysgol lleol am eu hymroddiad, wrth i’r gwasanaeth cenedlaethol hebryngwyr croesfannau ysgol gyrraedd ei ben-blwydd yn 70 oed.

Mae 23 o hebryngwyr croesfannau ysgol yn y sir, yn gweithio’n galed ym mhob tywydd i helpu disgyblion a cherddwyr eraill i groesi’r ffordd yn ddiogel ar eu taith i’r ysgol ac oddi yno.

“Roeddem eisiau achub ar y cyfle hwn i ddiolch i’n holl hebryngwyr croesfannau ysgol – boed yn gweithio ar hyn o bryd neu yn y gorffennol,” dywedodd Darren Thomas, Pennaeth Isadeiledd a'r Amgylchedd.

“Maen nhw’n arwyr di-glod sy’n tywys plant yn ddiogel ar draws ein ffyrdd yn Sir Benfro, a gwerthfawrogir eu hymrwymiad gan lawer o bobl yn y gymuned ehangach.”

Cyflwynwyd bathodyn pin coffaol a cherdyn i’r hebryngwyr yn y digwyddiad yn Neuadd y Sir i nodi’r 70 mlwyddiant.

Pennawd

Darren Thomas a hebryngwyr croesfannau ysgol: Anthony Carr, Rachel Russell, Phil Lewtus, Hannah Grant, Melanie Wortlehock, Amanda Miller, Lindsey Elliott-James, Caroline Scourfield, Alec Murray a Paul White. Hefyd yn y llun mae staff o dîm diogelwch ar y ffyrdd y Cyngor: Sally Jones, Helen Luff, Sophie Lewis a Steve Benger.