Rhwydwaith Cymorth i Deuluoedd Sir Benfro

Rhoi’r cymorth iawn ar yr adeg iawn i deuluoedd yn Sir Benfro

Giving families in Pembrokeshire the right support at the right time

Rhannu:

Mae bywyd teuluol yn werthchweil iawn ond gall hefyd gynnwys gorfod cynnal cydbwysedd.

Er mwyn ei gwneud hi'n haws i deuluoedd gael yr help sydd ei angen arnynt, mae un pwynt cyswllt bellach ar gael yn Sir Benfro – Rhwydwaith Cymorth i Deuluoedd Sir Benfro.

Y rhif cyswllt yw 01437 770023 (Dydd Llun i ddydd Gwener: 9am - 5pm).

Lansiwyd Rhwydwaith Cymorth i Deuluoedd Sir Benfro yn 2023. Mae'n cynnwys gwasanaethau gan:

  • Tîm Cymorth i Deuluoedd (Tîm o Amgylch y Teulu a Dechrau'n Deg)
  • Gweithredu dros Blant
  • Sbardun
  • Ymwelwyr Iechyd y GIG
  • Cymorth Cynhwysiant
  • Cysylltydd Cymunedol PAVS
  • Gwasanaethau Ieuenctid

"Mae gan lawer o rieni a gofalwyr lawer o blatiau y mae angen iddyn nhw barhau i'w troelli, a'r realiti yw y gallwn ni i gyd wneud â help llaw o bryd i'w gilydd," meddai Leonie Rayner o'r rhwydwaith cymorth. 

"Trwy gael un pwynt mynediad, rydym yn gobeithio ei gwneud hi'n haws ac yn gyflymach nag erioed i deuluoedd lleol gysylltu â'n gwasanaethau cymorth i rieni, pryd bynnag y bydd angen help."

Dywedodd y Cynghorydd Guy Woodham, Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu Gydol Oes, y byddai darparu un pwynt cyswllt yn gwneud y gwasanaeth cymorth rhianta yn symlach, ac yn rhoi eglurder i deuluoedd a gweithwyr proffesiynol.

"Bydd yr un pwynt cyswllt yn sicrhau bod rhieni a gofalwyr yn cael eu cyfeirio'n gyflym at y gwasanaeth mwyaf priodol i gefnogi eu hanghenion," meddai.

"Weithiau gall bywyd teuluol newid yn gyflym ac yn annisgwyl, felly erbyn hyn mae gennym ni un pwynt mynediad i'n timau cymorth rhianta ar y cyd, mae teuluoedd yn gallu codi'r ffôn i gael eu cysylltu â'r cymorth cywir iddyn nhw mewn unrhyw amser o angen."