English icon English
Haverfordwest Castle Gaol - Carchar Castell Hwlffordd

Rhowch eich barn - Helpwch i lywio prosiect Castell Hwlffordd!

Have your say - Help shape Haverfordwest Castle!

Mae Castell Hwlffordd yn cael ei weddnewid – ac mae'n bryd i chi roi eich barn!

Mae Cyngor Sir Penfro mewn partneriaeth â Sefydliad Corfforedig Elusennol Castell Hwlffordd yn cynllunio profiad newydd sbon i ymwelwyr ar dri llawr hen Garchar y Sir, sy'n eistedd ar dir y Castell; gan rannu straeon o orffennol, presennol a dyfodol Sir Benfro.

Daw'r cyllid ar gyfer y cam hwn o'r prosiect gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Rydyn ni eisiau clywed beth hoffech chi ei weld a'i wneud yn y Castell.

Gallwch ddod o hyd i'r holiadur yn www.castellhwlffordd.cymru  neu gallwch gasglu copi papur o'r holiadur yn y dderbynfa yn Neuadd y Sir, Cyngor Sir Penfro yn Hwlffordd.

Dim ond tua 5 munud y bydd yn ei gymryd i rannu eich meddyliau, eich atgofion a'ch straeon o bob rhan o Sir Benfro.

Er y bydd Castell Hwlffordd yn ganolog i'r profiad, bydd y straeon a adroddir yno yn adlewyrchu'r sir gyfan - ei phobl, ei lleoedd, ei gorffennol a'r dyfodol. P'un a ydych chi wedi tyfu i fyny yng nghysgod y Castell, â gwreiddiau teuluol mewn rhan arall o Sir Benfro, neu fod gwarchod a rhannu ein treftadaeth ar y cyd yn bwysig i chi ynghyd â rhannu pa mor unigryw yw Sir Benfro heddiw – mae eich cyfraniad yn amhrisiadwy.

Rydym am greu rhywbeth unigryw, dilys, sydd wedi'i wreiddio'n ddwfn yn nhreftadaeth Sir Benfro a'r presennol - nid stori am Gastell Hwlffordd yn unig, ond stori a adroddir drwyddo.

O fewn hen Garchar y sir, rydym yn dymuno creu profiad sy'n atseinio gyda phobl ledled y sir a gydag ymwelwyr o ymhellach i ffwrdd. P'un a yw eich cysylltiad â'r Castell neu gornel o Sir Benfro sydd filltiroedd i ffwrdd, bydd eich straeon, eich syniadau a'ch atgofion yn rhoi calon i'r atyniad newydd hwn.

Mae'r prosiect wedi bod yn cael ei greu ers bron i 10 mlynedd ac mae wedi cael ei ddatblygu ar y cyd â grŵp gweithredol o randdeiliaid cymunedol.

Pan fydd ar agor, bydd yr atyniad yn cael ei redeg gan Sefydliad Corfforedig Elusennol Castell Hwlffordd, sefydliad elusennol annibynnol sydd wedi’i greu o'r grŵp o randdeiliaid.

Ar hyn o bryd mae gwaith ar y gweill ar gam cyntaf y prosiect i adfer y Castell a'r hen Garchar, a ariennir gan y Gronfa Ffyniant Bro, i gyflwr fydd yn barod ar gyfer gosod arddangosfa gyffrous.