English icon English
Dyn gyda pen a laptop

Rhowch hwb i’ch syniad ar gyfer egin fusnes gyda bŵt-camp busnes poblogaidd

Boost your start-up idea with popular Business Bootcamp

Mae bŵt-camp busnes poblogaidd Sir Benfro ar fin dychwelyd i gynnig hwb i fusnesau newydd lleol yr haf hwn.

Yn dilyn llwyddiant digwyddiad y llynedd, a’r adborth cadarnhaol a gafwyd gan gyfranogwyr, bydd Tîm Cymorth Busnes Cyngor Sir Penfro yn cynnal bŵt-camp dechrau busnes deuddydd ym mis Mehefin.

Anogir entrepreneuriaid nad ydynt wedi dechrau eu busnes eto, sydd newydd ddechrau eu busnes, neu sydd â busnes sefydledig i gofrestru ar gyfer y gweithdy rhad ac am ddim hwn sy’n cynnig cipolwg ar hanfodion busnes.

Bydd arbenigwyr yn ymdrin â phynciau allweddol, gan gynnwys cynhyrchu syniadau, brandio, marchnata, cyllid, a chyflwyno syniad ar gyfer busnes newydd.

Bydd cyfle hefyd i rwydweithio ag entrepreneuriaid o’r un anian, cael gwybod mwy am ba gymorth sydd ar gael, ac archwilio cysylltiadau busnes posibl.

Dywedodd Alex Evans, Swyddog Datblygu Busnes ar gyfer Diwydiannau Entrepreneuriaeth Cyngor Sir Penfro: “Oherwydd cynnydd yn y galw, a’r adborth cadarnhaol a gafwyd o’r bŵt-camp blaenorol a gynhaliwyd gennym, roeddem yn falch o gynnal bŵt-camp arall i ateb y galw cynyddol am gymorth busnes yn Sir Benfro.

“Bydd sefydliad arbenigol yn cynnal y bŵt-camp, a bydd siaradwyr gwadd yn bresennol, sy’n golygu bod hwn yn gyfle gwych i entrepreneuriaid naill ai roi hwb i’w syniadau busnes neu hybu twf eu busnes.”

Cynhelir y bŵt-camp, a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, ar 3 Mehefin a 10 Mehefin rhwng 9am a 3pm yng Nghanolfan Arloesedd y Bont, Doc Penfro, SA72 6UN. Mae lleoedd yn gyfyngedig, ac mae neilltuo lle yn hanfodol.

I gael rhagor o fanylion, cysylltwch ag Alex ar Alex.Evans@pembrokeshire.gov.uk neu 07584642534.