Rhybudd gwynt coch prin yn arwain at benwythnos o dywydd eithafol ond hefyd gwaith tîm gwych
Rare red wind warning sees weekend of extreme weather but fantastic teamwork
Galwyd ar griwiau amgylchedd a seilwaith Cyngor Sir Penfro i weithredu ar raddfa enfawr wrth i Storm Darragh daro’r sir dros y penwythnos, a bydd y gwaith adfer yn para peth amser.
O ddiwedd dydd Gwener (6 Rhagfyr) roedd timau allan dros nos yn yr oerfel a'r gwynt yn clirio ein priffyrdd ac yn gwneud ardaloedd yn ddiogel wrth i'r gwyntoedd eithriadol o gryf ddymchwel cannoedd o goed.
Roedd y rhif Tu Allan i Oriau yn brysur iawn, gyda dros 400 o alwadau yn cael eu hateb dros y penwythnos, wrth i gannoedd yn fwy geisio mynd trwodd. Roedd y galwadau am lawer o wahanol argyfyngau gan gynnwys coed wedi cwympo, boeleri wedi torri, larymau carbon monocsid a materion eraill nad oedd yn gysylltiedig â’r storm.
Ar un adeg yn ystod y storm adroddwyd bod tua 50 o wahanol goed i lawr mewn un awr. Wrth i dimau ddelio ag un goeden byddai eraill yn disgyn gerllaw, gan ei gwneud yn benwythnos hynod o brysur a pheryglus iddyn nhw.
Gadawyd cannoedd o gartrefi heb bŵer ac ymunodd timau gofal cymdeithasol mewnol a’r rhai a gomisiynwyd i sicrhau bod y bobl mwyaf agored i niwed yn cael eu cefnogi. Gwnaed ymdrech enfawr i wirio bod cyswllt uniongyrchol wedi'i wneud ag unrhyw ddefnyddwyr gwasanaeth gofal cymdeithasol a allai fod heb wres a thrydan.
Cynhaliwyd dros 250 o alwadau i gartrefi pobl â larymau cymunedol eu cynnal, ynghyd ag ymweliadau lles dilynol.
Helpodd yr Hwb Cymunedol, wedi ei gydlynu gan Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro, i ddod â gwybodaeth a chefnogaeth i lawer, ynghyd ag ugeiniau o weithwyr gofal cartref a gweithwyr cartrefi gofal a oedd yn wynebu amodau anodd i sicrhau bod cleifion yn ddiogel.
Fe wnaeth staff y Gwasanaeth Hamdden hefyd gamu i'r adwy a gweithio oriau ychwanegol i gadw canolfannau hamdden ar agor yn hirach ddydd Sul fel mannau cynnes i unrhyw un oedd ei angen. Yn y cyfamser, gwnaeth swyddogion cynnal a chadw tai ac adeiladau ymateb i lu o adroddiadau am ddifrod a thoriadau pŵer.
Anfonodd Prif Weithredwr Cyngor Sir Penfro Will Bramble a'r Arweinydd, y Cynghorydd Jon Harvey, neges ddiffuant o ddiolch i'r holl staff a weithiodd yn eithriadol o galed yn ystod y storm, ac sy'n parhau i wneud hynny wrth inni symud yn ôl i normalrwydd.
Fe wnaethon nhw ymuno â Darren Thomas y Pennaeth Seilwaith yn Depo Tredemel i siarad â chriwiau'n uniongyrchol.
Ychwanegodd y Cynghorydd Harvey: "Bydd y gwaith o lanhau ac atgyweirio difrod gan Storm Darragh yn parhau am beth amser, a diolch o galon hefyd i'r nifer fawr o aelodau o'r gymuned a fu'n rhan o'r gwaith clirio cychwynnol ac sydd wedi bod yn edrych ar ôl teulu, ffrindiau a chymdogion.
“Roedd y cydweithio rhyngom ni, yr Heddlu, y gwasanaethau iechyd ac wrth gwrs, y cymunedau gwych sydd gennym yma yn Sir Benfro, ar ei orau wrth i'r storm daro, ac rydym yn ddiolchgar am sut y gwnaeth trigolion, ffermwyr, busnesau a’r hwb cymunedol ddod at ei gilydd."
Gall unrhyw un sy'n dal heb bŵer neu dŵr ddefnyddio’r cyfleusterau yn ein Canolfannau Hamdden, gan gynnwys Abergwaun sydd wedi ailagor yn dilyn gwaith atgyweirio ar ôl y storm, am le cynnes, cawod ac i wefru dyfeisiau.
Os ydych chi'n poeni am unrhyw un yn y gymuned sydd heb bŵer, cysylltwch â'r Grid Cenedlaethol ar 105 gan fod ganddyn nhw drefniadau gyda'r Groes Goch i ddarparu cefnogaeth. Gellir darparu rhywfaint o gefnogaeth yn y gymuned hefyd drwy'r Hwb Cymunedol. Ffoniwch 01437 723660 neu e-bostiwch enquiries@pembrokeshirecommunityhub.org
Mae generaduron ar gael i bobl sydd heb bŵer drwy gysylltu â ni ar 01437 764551 neu enquiries@pembrokeshire.gov.uk. Os ydych chi'n adnabod unrhyw un sydd angen cymorth, yn enwedig os ydynt yn agored i niwed ac yn cael cymorth gan y gwasanaethau gofal cymdeithasol, cysylltwch â ni ar 01437 764551 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am – 5pm).