Pembrokeshire County Council

Rhybuddio trigolion i fod yn ofalus rhag twyll ad-daliad y Dreth Gyngor

Beware of Council Tax refund scam, residents warned

Rhannu:

Mae Cyngor Sir Penfro yn rhybuddio trigolion i barhau i fod yn wyliadwrus yn dilyn adroddiadau o negeseuon sgam sy'n honni bod gan bobl hawl i ad-daliad y Dreth Gyngor.

Mae'r negeseuon twyllodrus, a allai gael eu hanfon trwy e-bost, neges destun neu drwy wefannau answyddogol, yn honni bod derbynwyr wedi gordalu eu Treth Gyngor ac y gallant gael ad-daliad trwy roi gwybodaeth ariannol a phersonol.

Mae'r negeseuon yn aml yn nodi bod ad-daliad yn ddyledus oherwydd newidiadau i gyfrif Treth Gyngor, er enghraifft symud cartref, dod yn gymwys i gael disgownt neu eithriad, neu ailasesu atebolrwydd. Yna anogir trigolion i glicio dolen a chyflwyno manylion personol, gan gynnwys gwybodaeth cerdyn banc.

Mae Cyngor Sir Penfro yn atgoffa trigolion bod sgamwyr yn aml yn defnyddio iaith sy’n argyhoeddi a brandio swyddogol i ennill ymddiriedaeth a chael gwybodaeth bersonol.

Dywedodd y Cynghorydd Jon Harvey, Aelod Cabinet dros Gyllid Corfforaethol ac Effeithlonrwydd: "Rydym yn annog trigolion i fod yn ofalus os ydyn nhw'n derbyn neges annisgwyl yn honni bod ad-daliad y Dreth Gyngor yn ddyledus iddynt. Mae troseddwyr yn aml yn defnyddio'r mathau hyn o sgamiau i gael gwybodaeth ariannol a phersonol. Os nad ydych yn siŵr a yw cyfathrebiad yn ddilys, cysylltwch â'r Cyngor yn uniongyrchol gan ddefnyddio'r manylion cyswllt ar ein gwefan."

Cynghorir trigolion i:

  • Fod yn wyliadwrus o negeseuon e-bost, negeseuon testun neu alwadau ffôn digymell am ad-daliadau'r Dreth Gyngor.
  • Peidio byth â rhoi manylion banc, cerdyn neu wybodaeth bersonol trwy ddolenni mewn negeseuon annisgwyl.
  • Dilysu unrhyw ohebiaeth trwy gysylltu â'r Cyngor yn uniongyrchol.
  • Rhoi gwybod am negeseuon y tybir eu bod yn rhai twyllodrus a'u dileu ar unwaith.

Mae'r Cyngor yn annog unrhyw un sy'n credu eu bod wedi ymateb i neges dwyllodrus i gysylltu â'u banc heb oedi a rhoi gwybod i Action Fraud.

Ar gyfer ymholiadau dilys am y Dreth Gyngor, dylai trigolion ddefnyddio manylion cyswllt swyddogol y Cyngor a'r gwasanaethau sydd ar gael drwy wefan y Cyngor yn unig: https://www.sir-benfro.gov.uk/y-dreth-gyngor