Enillwyr a'r rheini a ddaeth yn ail yn Wobrau Spotlight 2026

Sbotolau ar ein pobl ifanc – atgoffa bod enwebiadau ar agor

Shine a spotlight on our young people – nominations open reminder

Rhannu:

Mae amser o hyd i enwebu person ifanc ysbrydoledig ar gyfer Gwobrau Sbotolau Sir Benfro 2026, ond mae'r dyddiad cau yn prysur agosáu.

Mae'r gwobrau blynyddol hyn yn gyfle gwych i ddathlu cyflawniadau, doniau a gwydnwch plant a phobl ifanc yn y sir sy'n cyflawni pethau rhagorol, yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eu cymunedau neu'n goresgyn heriau.

Gellir enwebu unigolion neu grwpiau ar gyfer 11 categori o wobrau, a gall unrhyw un gyflwyno enwebiad, gan gynnwys pobl ifanc eu hunain.

Dywedodd y Cynghorydd Marc Tierney, Aelod Cabinet dros Bobl Ifanc a Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol: "Bwriad Gwobrau Sbotolau yw dathlu'r bobl ifanc anhygoel sy'n gwneud Sir Benfro yn lle mor arbennig. Mae pob enwebiad yn adrodd stori am dalent, gwydnwch, ymroddiad neu garedigrwydd.

"Rwy'n annog pawb i gymryd eiliad i gydnabod person ifanc haeddiannol trwy gyflwyno enwebiad a'n helpu i roi'r sylw maen nhw'n ei haeddu iddynt."

Anogir ysgolion, sefydliadau ieuenctid, grwpiau cymunedol, aelodau o'r teulu a ffrindiau i gyflwyno eu henwebiadau cyn y dyddiad cau i sicrhau bod y straeon ysbrydoledig hyn yn derbyn y gydnabyddiaeth maen nhw'n ei haeddu.

Enwebwch heddiw a rhowch foment i rywun ddisgleirio: https://forms.cloud.microsoft/e/BYWVUY7T8i 

Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw 23 Tachwedd 2026.

Mae'r gwobrau'n cael eu cyflwyno drwy bartneriaeth rhwng y Swyddfa Hawliau Plant a Phobl Ifanc, Gwasanaethau Ieuenctid a Phlant Sir Benfro yng Nghyngor Sir Penfro, a noddir gan BAM Nuttall ac Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau.