English icon English
Classroom - Ystafell ddosbarth

Dyddiad cau lleoedd ysgolion uwchradd yn agosáu

Secondary school places deadline approaching

Bydd angen i rieni disgyblion Blwyddyn 6 yn Sir Benfro ymgeisio am leoedd ysgolion uwchradd ar gyfer mis Medi 2024 erbyn y dyddiad cau, sef 20 Rhagfyr 2023.

Bydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu hystyried yn hwyr, ac fe allai hynny effeithio ar y plentyn yn cael lle yn yr ysgol sydd orau ganddo / ganddi.

Nid oes mynediad awtomatig i ysgol uwchradd, hyd yn oed i’r rheiny sy’n byw yn y dalgylch – rhaid cyflwyno cais.

Nid oes angen i rieni disgyblion Blwyddyn 6 Ysgol Penrhyn Dewi, Ysgol Bro Preseli neu Ysgol Caer Elen gyflwyno ceisiadau oherwydd bod y plant yn mynychu ysgolion 3-16 a thybir y byddant yn aros yn eu hysgolion presennol. Fodd bynnag, os dymuna rhieni ymgeisio am leoedd mewn ysgolion uwchradd gwahanol, rhaid iddynt gyflwyno cais cyn y dyddiad cau uchod.

Mae’n bwysig nodi na fydd lle yn cael ei neilltuo oni bai y derbynnir cais ffurfiol.

Mae’r ffurflen gais ar-lein ar gael ar wefan Cyngor Sir Penfro, yn yr adran ‘Ymgeisio am le mewn ysgol’. 

Bydd rhieni / gwarcheidwaid yn cael gwybod am ddyraniad lleoedd ar y dyddiad cynnig cyffredin, sef 1 Mawrth 2024.