Eleri Powell UWTSD, Jo Bowers - Ysgol Sageston, Cloe Ormond - Ysgol Arberth, Jazz OwenYsgol Tafarnspite, Jacob Jones - Ysgol Penrhyn Dewi; Cara Lews UWTSD, Catrin Phillips PCC, Menir Ebbsworth - National Centre for Learning Welsh

Sêr y Sabothol yn cael eu dathlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Sabbatical course stars celebrated at the National Eisteddfod

Rhannu:

Cynhaliwyd dathliad arbennig ym Mhentref y Garreg Las ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol heddiw i anrhydeddu ‘Sêr y Sabothol’ – ymarferwyr addysg o Sir Benfro sydd wedi elwa ar gyrsiau sabothol dysgu Cymraeg dwys dros y pymtheg mlynedd ers sefydlu’r cynllun.

Mae’r cynllun sabothol yn galluogi athrawon a chynorthwywyr dosbarth i gael eu rhyddhau o’u dyletswyddau ysgol er mwyn mynychu cyrsiau Cymraeg dwys, gan gryfhau eu sgiliau iaith a magu’r hyder i addysgu a defnyddio’r Gymraeg yn eu hysgolion.

Dywedodd Dr Lowri Lloyd, Pro Is-Ganghellor Cysylltiol Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ac aelod o’r tîm gwreiddiol a sefydlodd y ddarpariaeth:

“Mae’n bwysig dathlu llwyddiant ysgubol y ddarpariaeth dysgu dwys sabothol a’i heffaith bellgyrhaeddol ar y Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn Sir Benfro ac ar draws Cymru. Dyma gyfle i ymfalchïo yn llwyddiant y cyrsiau arloesol hyn ac i ddiolch i’r tîm o ddarlithwyr a thiwtoriaid arbenigol sydd wedi eu cynnal dros y blynyddoedd, yn ogystal â’r athrawon a’r cynorthwywyr am eu hymroddiad a’u brwdfrydedd dros y Gymraeg.”

Ychwanegodd Catrin Phillips, Swyddog Datblygu’r Gymraeg Cyngor Sir Benfro:

“Mae’r cyrsiau sabothol wedi bod yn amhrisiadwy i ni yn Sir Benfro dros y blynyddoedd. Maent wedi cefnogi athrawon a chynorthwywyr nid yn unig i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg a’u hyder i ddefnyddio’r iaith yn y dosbarth, ond hefyd i ddyfnhau eu dealltwriaeth o’r fethodoleg orau ar gyfer addysgu’r Gymraeg. Rydym yn hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu at lwyddiant y cynllun dros y pymtheg mlynedd diwethaf.”

Yn ystod y digwyddiad, cafwyd cyfraniadau gan nifer o unigolion a fu’n rhan o’r cynllun sabothol. Rhannwyd profiadau personol o’r effaith a gafodd yr hyfforddiant ar eu gyrfaoedd, ynghyd ag enghreifftiau o sut mae ysgolion wedi trawsnewid y ffordd y maent yn addysgu ac yn dathlu’r Gymraeg o ddydd i ddydd.

Bellach, mae’r cyrsiau sabothol yn cael eu trefnu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Agorwyd y dathliad gan Meinir Ebbsworth, Cyfarwyddwr Strategol y Ganolfan, a ddywedodd:

“Mae datblygu sgiliau Cymraeg y gweithlu addysg yn flaenoriaeth allweddol er mwyn gwireddu nodau Deddf y Gymraeg ac Addysg. Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn arwain rhaglen hyfforddiant gynhwysfawr ar gyfer y gweithlu addysg, sy’n cynnwys y cynllun sabothol. Mae’r cyfle i ddysgu’r Gymraeg yn ddwys drwy’r cynllun hwn yn brofiad trawsnewidiol, gan greu athrawon sy’n hyderus i siarad Cymraeg ac i arwain ar ddatblygu’r Gymraeg yn eu hysgolion.”

Mae’r dathliad yn nodi carreg filltir bwysig i’r cynllun sabothol, gan dynnu sylw at ei gyfraniad sylweddol at ddatblygu gweithlu addysg dwyieithog a chryfhau’r defnydd o’r Gymraeg mewn ysgolion ledled Sir Benfro a thu hwnt dros y pymtheg mlynedd diwethaf.