Sesiwn galw heibio arbennig i bobl ifanc mewn busnes
Special business drop-in for young people
Gwahoddir entrepreneuriaid ifanc, p’un a ydyn nhw’n newydd neu wedi hen ennill eu plwyf, i ddigwyddiad galw heibio arbennig i fusnesau y mis hwn.
Mae digwyddiad galw heibio Cyngor Sir Penfro i fusnesau ar 26 Medi wedi’i anelu at entrepreneuriaid ifanc ac egin fusnesau, gydag amrediad o sefydliadau’n mynychu i gynnig cymorth arbenigol.
Dywedodd Peter Lord, y Prif Swyddog Datblygu: “Bydd ein partneriaid rheolaidd sy’n rhoi cymorth i fusnesau yn dal i fod yn bresennol i gynnig cymorth cyffredinol, ond y mis hwn roedden ni eisiau tynnu sylw at y cymorth sydd ar gael i bobl ifanc rhwng 16 a 30 oed sydd wedi cwblhau addysg ac sy’n ystyried dechrau eu busnes eu hunain yn y sir.”
Ymhlith y rhai fydd yn bresennol bydd Syniadau Mawr Cymru, a fydd yn egluro’r cymorth sylweddol y gallant ei gynnig, megis darparu ymgynghorwyr, deunyddiau dysgu a chyllid.
Hefyd yn bresennol fydd y sefydliadau cymorth arferol fel Gorllewin Cymru Greadigol, Ffederasiwn y Busnesau Bach, Croeso Sir Benfro, Landsker Business Solutions, Loteri Sir Benfro, Really Pro Ltd a Web Adept.
Mae’r digwyddiad galw heibio yn anffurfiol ac yn rhoi cyfle gwych i bobl ifanc siarad â sefydliadau i weld sut y gallant wireddu eu syniadau neu ddatblygu eu busnes presennol.
Cynhelir y digwyddiadau galw heibio ar ddydd Gwener olaf pob mis, rhwng 9am a 12pm, wedi’u trefnu gan Dîm Cymorth Busnes Cyngor Sir Penfro ac wedi’u hariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Mae tocynnau a mwy o wybodaeth ar gael yn: Tocynnau digwyddiadau Canolfan Arloesedd y Bont | Eventbrite, neu dilynwch y dudalen Facebook i gael gwybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd am raglen digwyddiadau am ddim yr hydref, cyllid a chyfleoedd rhwydweithio: (20+) Facebook