English icon English
Seswin aml-chwaraeon yn Hwlffordd

Sesiynau aml-chwaraeon llawn hwyl am ddim i blant yn Hwlffordd

Fun, free multi-sport sessions for children in Haverfordwest

Bydd sesiynau aml-chwaraeon am ddim i blant rhwng 5 a 7 oed yn cael eu cynnal unwaith eto yr hydref hwn yn Hwlffordd.

Bydd y rhaglen chwe wythnos o hyd yn dechrau ddydd Iau 21 Medi yn Neuadd Chwaraeon Ysgol Uwchradd VC Hwlffordd.

Bydd y sesiynau’n cael eu rhedeg gan staff Chwaraeon Sir Benfro gyda chymorth Llysgenhadon Ifanc o’r ysgol.

“Mae’r pwyslais ar gael hwyl a datblygu sgiliau sylfaenol drwy amrywiaeth eang o syniadau, gemau a gweithgareddau aml-chwaraeon cynhwysol,” dywedodd Dan Bellis o Chwaraeon Sir Benfro.

“Weithiau, bydd clybiau cymunedol lleol yn dod atom hefyd i gynnal sesiwn a rhoi gwybodaeth am sut y gellir ymuno â nhw.”

Bydd y sesiynau’n cael eu cynnal rhwng 4.15pm a 5pm. Byddant yn dechrau ar 21 Medi ac yn cael eu cynnal bob dydd Iau. Bydd y sesiwn ddiwethaf ar 26 Hydref.

I gofrestru, cliciwch ar Ffurflen Aml-Chwaraeon Hwlffordd (agor mewn tab newydd)

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Dan Bellis ar 07920 702044/ neu Teresa Canton ar 07884 510208.

Egluryn

Yn y llun mae sesiwn aml-chwaraeon gyda Llysgenhadon Ifanc o HHVCS.