English icon English
Sesiwn aml-chwaraeon

Sesiynau chwaraeon am ddim yn Hwlffordd i blant 5-7 oed

Free sport sessions in Haverfordwest for children aged 5-7

Mae sesiwn amlchwaraeon am ddim i blant rhwng pump a saith oed yn cael eu cynnig yn Hwlffordd o ddydd Iau, 8 Mehefin i ddydd Iau, 13 Gorffennaf.

Mae'r sesiynau amlchwaraeon, sy'n cael eu cynnal gan Chwaraeon Sir Benfro, yn rhoi cyfle i blant roi cynnig ar amrywiaeth eang o chwaraeon, o bêl-droed a thenis i golff, gymnasteg, pêl-fasged cadair olwyn, dartiau meddal a mwy!

Mae rhai o'r sylwadau cadarnhaol niferus gan rieni y mae eu plant wedi cymryd rhan, yn cynnwys: 'Mae fy merch wedi mwynhau ei hun yn fawr ac mae bellach wedi cofrestru mewn dawns, gymnasteg a nofio. Diolch am yr holl gyfleoedd rydych chi wedi'u gwneud yn bosibl' a 'Roeddwn i eisiau diolch i chi am y clwb amlchwaraeon. Mae fy mab wrth ei fodd ac mae'n cael amser da iawn."

Cynhelir y sesiynau yn ystod y tymor ym Mhentref Chwaraeon Sir Benfro yn Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd ar ddydd Iau rhwng 4.15pm a 5pm.

Maent yn cael eu cynnal gan staff o Chwaraeon Sir Benfro a Llysgenhadon Ifanc o Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd.

Mae clybiau chwaraeon lleol wedi cymryd rhan hefyd, gan gynnal sesiynau blasu a rhoi gwybodaeth am sut i ymuno. Mae'r clybiau wedi cynnwys Clwb Golff Hwlffordd, Clwb Rygbi Hwlffordd, Clwb Pêl-droed Prendergast Villa, Clwb Tenis Hwlffordd a Chlwb Gymnasteg Hwlffordd.

Dywedodd Daniel Bellis o Chwaraeon Sir Benfro bod llawer o blant wedi mynd ymlaen i ymuno â chlybiau gwahanol. "Mae'r sesiynau amlchwaraeon yn ffordd wych i blant roi cynnig ar ddigonedd o wahanol weithgareddau, gweld pa rai maen nhw'n eu mwynhau, a datblygu hyder," meddai.

Mae sylwadau gan rieni wedi cynnwys: "Mae'n ddrwg iawn gen i na fydd fy mab yn dod i amlchwaraeon am gyfnod; mae wedi cofrestru ar gyfer sesiynau golff am ddim. Fyddwn i byth wedi meddwl y byddai’n hoffi golff; dim ond ar ôl y sesiwn flasu gyda chi y cawson ni wybod hynny. Diolch.'

Dywedodd rhiant arall: "Mae fy mab wedi bod wrth ei fodd â’r sesiynau ac fe roddon nhw lawer o hyder iddo gymryd rhan mewn clybiau chwaraeon ac allgyrsiol."

Mae'r sesiynau amlchwaraeon yn agored i blant rhwng pump a saith oed ym mlynyddoedd 1 a 2 yn yr ysgol gynradd. Maent hefyd ar gael ar gyfer plant pump oed mewn dosbarthiadau derbyn.