Sgôr ragorol i Amlosgfa Parc Gwyn
Outstanding rating for Parc Gwyn Crematorium
Mae Amlosgfa Parc Gwyn wedi derbyn sgôr "Rhagorol" yn dilyn ei harolygiad tair blynedd gan Ffederasiwn yr Awdurdodau Claddu ac Amlosgi (FBCA).
Asesodd yr arolygiad berfformiad mewn wyth maes allweddol o ddarparu gwasanaethau, gan gynnwys gweithdrefnau gweithredol, cydymffurfiaeth statudol a rheoleiddiol, ansawdd y gwasanaeth, a safon y cyfleusterau.
Canfu'r arolygydd lefel uchel o gydymffurfiaeth ym mhob maes.
O ganlyniad, dyfarnwyd Tystysgrif Cydymffurfiaeth i'r amlosgfa i gydnabod ei hymrwymiad parhaus i gynnal safonau uchel wrth ddarparu gwasanaethau claddu ac amlosgi.
Dywedodd y Cynghorydd Rhys Sinnett, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Preswylwyr: "Rydym wrth ein bodd gyda'r canlyniad, sy'n adlewyrchu ymroddiad a gwaith caled holl aelodau'r tîm ym Mharc Gwyn.
"Mae staff yn ymfalchïo mewn darparu gwasanaeth urddasol o ansawdd uchel i bawb, o’r gwaith gweinyddol a darparu gwasanaethau i weithrediadau amlosgi a chynnal a chadw'r tir."
Mae canlyniad yr arolygiad yn dangos ymrwymiad parhaus yr amlosgfa i ddarparu gwasanaethau tosturiol, proffesiynol a chynnal cyfleusterau rhagorol i'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu.
Flwyddyn diwetha agorodd Parc Gwyn ddôl goffa blodau gwyllt yn swyddogol i ddarparu lle naturiol a heddychlon ar gyfer cofio a myfyrio.
Mae'r ddôl yn rhoi mwy o ddewis i deuluoedd lle gellir claddu gweddillion wedi’u amlosgi, ac yn cynnig opsiynau coffa newydd i helpu i goffáu anwyliaid mewn lleoliad heddychlon.