Llun: Tom Dyer / Rhodri Evan / Ceri Ashe / Dafydd Vaughan

Sioe ‘Meddwl Dros dy Hun’ yn llwyddiant ysgubol wrth deithio i ysgolion Uwchradd Sir Benfro

The 'Meddwl Dros Dy Hun’ (Think for Yourself) show is a huge success touring Pembrokeshire secondary schools

Rhannu:

Mae’r sioe newydd sbon, ‘Meddwl Dros dy Hun’, wedi cwblhau taith lwyddiannus i bob ysgol uwchradd yn Sir Benfro yn ddiweddar, gyda dros 1,200 o bobl ifanc wedi cael cyfle i brofi'r perfformiad byw a derbyn neges bwysig am ddyfodol y Gymraeg.

Wedi'i chomisiynu gan Fenter Iaith Sir Benfro, ac wedi'i hysgrifennu gan y dramodydd Ceri Ashe, cafodd y sioe ei chreu gyda'r nod o annog pobl ifanc i feddwl am eu teimladau tuag at y Gymraeg a'u hannog i ddefnyddio'r iaith y tu allan i'r dosbarth.

Dechreuodd y prosiect drwy gynnal gweithdai gyda disgyblion ym mhob ysgol uwchradd yn y sir, yn ogystal â Choleg Sir Benfro, er mwyn casglu barn a theimladau pobl ifanc am yr iaith. Defnyddiwyd y syniadau a'r profiadau hyn fel ysbrydoliaeth i greu'r ddrama.

Wedi teithio i bob ysgol uwchradd yn y sir, mae'r sioe wedi derbyn croeso arbennig a chanmoliaeth gan ysgolion a’r disgyblion. Roedd yr adborth yn pwysleisio gwerth y perfformiad, ei berthnasedd i bobl ifanc heddiw a'r ffordd greadigol a gyfunwyd y Gymraeg a'r Saesneg drwy'r ddau gymeriad yn y sioe.

Dywedodd un ysgol: “Roedd y sioe yn werthfawr iawn ac yn addas ar gyfer disgyblion ein hysgol, gyda'r defnydd clyfar o Gymraeg a Saesneg rhwng y ddau gymeriad. Roedd e'n brofiad arbennig iddyn nhw wylio (a deall) sioe yn fyw yn y Gymraeg a hefyd rhoi hyder iddynt i ddefnyddio'r iaith bob dydd.”

Mae'r ymateb cadarnhaol gan ysgolion yn dangos gwerth defnyddio theatr fel ffordd o ymgysylltu â phobl ifanc, gan roi cyfle iddynt brofi'r Gymraeg mewn ffordd wahanol, hwyliog a pherthnasol i'w bywydau.

Dywedodd Dafydd Vaughan, Cydlynydd y Prosiect gyda Menter Iaith Sir Benfro: “Mae'n wych gweld y bod y prosiect wedi cael ymateb mor gadarnhaol. Y nod o'r cychwyn oedd rhoi cyfle i bobl ifanc leisio'u barn am y Gymraeg, ond hefyd eu hannog i weld y cyfleoedd a'r gwerth sydd i ddefnyddio'r iaith yn eu bywydau bob dydd.

“Braf oedd gweld bod dros 1,200 o bobl ifanc wedi gweld y sioe, a bod ymateb yr ysgolion wedi bod mor ganmoladwy o'r profiad, yn destun balchder mawr.
Hoffwn ddiolch yn fawr i Ceri Ashe, Rhodri Evan a Tom Dyer am eu gwaith gwych, ac i'r holl ysgolion a fu'n rhan o'r daith am eu cefnogaeth a'u croeso.”

Mae llwyddiant ‘Meddwl Dros dy Hun’ yn gam cadarnhaol arall tuag at annog cenhedlaeth newydd i feddwl am eu perthynas â'r Gymraeg, magu hyder i ddefnyddio'r iaith a chydnabod ei phwysigrwydd yng nghymunedau Sir Benfro.

Dywedodd Ceri Ashe bod gweithio gyda Dafydd a’r actorion Tom Dyer a Rhodri Evan wedi bod yn wych, ac yn her dda iddi fel dramodydd a chyfarwyddwr i weithio allan sut i ddweud y stori efo cyn lleied o props a set fel bod y sioe yn medru gweithio mewn dosbarth neu neuadd ysgol.

Roedd e mor gyffrous gweld ymateb y disgyblion yn yr ysgolion gwahanol, yn enwedig clywed yn yr ysgolion llai Cymraeg bod y plant dal wedi hoffi’r sioe ac wedi cydio yn y neges o ddechrau gydag un gair Cymraeg y dydd.

Gwireddwyd hyn drwy gyllid Y Gronfa Ffyniant Gyffredin ac Adran Ieuenctid Cyngor Sir Penfro a rydym yn ddiolchgar iawn iddynt am y Cymorth ariannol.

Wrth edrych tua'r dyfodol, byddai'n braf gweld cyfle i fynd â ‘Meddwl Dros dy Hun’ ymhellach, gan fynd â'r sioe allan i'r gymuned a theithio gyda hi o amgylch Cymru. Byddai hyn yn gyfle gwych i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd, parhau â'r sgyrsiau am bwysigrwydd y Gymraeg ac ysbrydoli mwy o bobl ifanc ac aelodau o'r gymuned i ddefnyddio'r iaith yn eu bywydau bob dydd.

Llun: Tom Dyer / Rhodri Evan / Ceri Ashe / Dafydd Vaughan