English icon English
20mph get ready for 20

Sir Benfro’n paratoi i gyflwyno’r terfyn cyflymder diofyn o 20mya

Pembrokeshire prepares for the new 20mph default speed limit rollout

Cyn i Lywodraeth Cymru gyflwyno’r terfyn 20mya ar Dydd Sul 17 Medi, efallai byddwch yn sylwi ar waith sy’n digwydd i addasu arwyddion y terfyn cyflymder wrth i chi deithio o gwmpas Sir Benfro.

Bydd llawer o derfynau cyflymder 30mya yn cael eu gostwng i 20mya, yn unol â deddfwriaeth newydd.

Mae Llywodraeth Cymru’n gwneud y newid hwn i helpu achub bywydau ac amddiffyn ein cymunedau. Y nod yw:

  • lleihau nifer y gwrthdrawiadau ac anafiadau difrifol (a lleihau’r effaith ar y GIG wrth drin y bobl sy’n cael eu hanafu)
  • annog mwy o bobl i gerdded a beicio yn ein cymunedau
  • helpu i wella ein hiechyd a’n lles
  • gwneud ein strydoedd yn fwy diogel
  • diogelu’r amgylchedd er cenedlaethau’r dyfodol

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Sinnett, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trigolion, fod Cyngor Sir Penfro yn gweithio’n galed i gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth.

“Mae paratoadau’n cael eu gwneud i osod arwyddion 10mya newydd mewn lleoliadau niferus ar draws y sir,” meddai.

“Bydd yr arwyddion newydd yn disodli’r rhan fwyaf o’r arwyddion terfyn cyflymder 30mya presennol – er nad y cyfan ohonynt.

“Fodd bynnag, dosbarthwyd nifer bach o ardaloedd 30mya yn ‘eithriadau’ ac ni fydd y rhain yn newid.

“Os ydych chi’n yrrwr, byddwch yn effro a chadwch lygad allan am y newidiadau o Dydd Sul 17 Medi ymlaen, pan ddaw’r ddeddfwriaeth i rym.

Ychwanegodd y Cynghorydd Sinnett: “Mae’r holl waith sy’n gysylltiedig â’r newidiadau hyn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.”

I gael manylion, gweler:

https://www.llyw.cymru/cyflwyno-terfynau-cyflymder-20mya-cwestiynau-cyffredin

https://www.sir-benfro.gov.uk/parcio-ffyrddf-a-thrafnidiaeth/20mya-deddfwriaeth-newydd-yn-sir-benfro-a-chymru