English icon English
Wisemans Bridge Rowing Club Womens Coxed Quad

Beirniaid Gwobrau Chwaraeon yn Cyhoeddi’r Rhestr Byr

Sport Pembrokeshire Awards Finalists announced by Judging Panel

Mae’r rhestri byr ar gyfer gwobrau Chwaraeon Sir Benfro wedi cael eu cyhoeddi.

Ystyriodd y beirniaid 296 o enwebiadau, gan ddewis y 39 terfynol yn dilyn cyfarfod dewis.

Dywedodd Matt Freeman, rheolwr Chwaraeon Sir Benfro: “Unwaith eto, roedd safon y rhai a enwebwyd yn uchel iawn, bu’n dipyn o her dewis ond tri terfynol ar gyfer pob categori.

“Rydym yn falch iawn bod pobl wedi rhoi eu hamser i enwebu cymaint o bobl haeddiannol.”

 

Bydd y 39 a ddaeth i’r brig yn cael eu gwahodd i seremoni gyflwyno arbennig yn Folly Farm ar 24 Tachwedd, pan gaiff enwau’r enillwyr eu cyhoeddi.

Bydd enillwyr dau gategori arbennig hefyd yn cael eu datgelu yn ystod y seremoni – Gwobr Cyfraniad Oes, a Gwobr Gorchest Arbennig y Cadeirydd.

Trefnir y gwobrau gan adran datblygu chwaraeon Cyngor Sir Benfro - Chwaraeon Sir Benfro.

Maent yn cael eu noddi gan Chwaraeon Sir Benfro, Valero, y Western Telegraph, Folly Farm, a Radio Pure West.

Bwriad y gwobrau yw cydnabod y rhai sydd wedi llwyddo ym myd chwaraeon dros y 12 mis diwethaf, yn ogystal â’r rhai sydd yn hyfforddi a threfnu.

 

Rhestri Byr Chwaraeon Sir Benfro 2023

 (Yn nhrefn yr wyddor)

 

Hyfforddwr y Flwyddyn

Sam Feneck (Crossfit)

Daisy Griffiths (Gymnastics)

Mikey Newman (Parkour)

 

Gorchest Chwaraeon Merched

Katie Dickinson (Bowls)

Gracie Griffiths (Race Walking)

Seren Thorne (Shooting)

 

Gorchest Chwaraeon Dynion

Micky Beckett (Sailing)

Jeremy Cross (Tennis)

Moritz Neumann (Crossfit)

 

Gorchest Chwaraeon Bechgyn (dan 16)

Finley Bruce (Running)

Reuben Lerwill (Gymnastics)

Ramon Rees-Siso (Football)

 

Gorchest Chwaraeon Merched (dan 16)

Josie Hawke (Surfing)

Chloe John-Driscoll (Shooting)

Nina Marsh (Sailing)

 

Gwobr Chwaraeon i’r Anabl

Bleddyn Gibbs (Weightlifting)

Michael Jenkins (Discus)

Jules King (Crossfit)

 

Gwobr Ieuenctid Chwaraeon i’r Anabl (dan 16)

Lewis Crawford (Boccia)

Saskia Webb (Swimming)

Ioan Williams (Boccia)

 

Arwyr Anhysbys

Dave Astins (Triathlon)

Piers Beckett (Sailing)

Sam Rossiter (Cricket)

 

Gorchest Tîm y Flwyddyn

Haverfordwest County AFC

Haverfordwest Ladies Rugby

Llangwm RFC Youth

 

Gorchest Tîm Ieuenctid (dan 16) y Flwyddyn

Pembrokeshire Schools Football U14’s

South Pembs Sharks U14’s

Ysgol Penrhyn Dewi Tennis Team

 

Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn

Elizabeth Clissold (Swimming)

Ellie Phillips (Swimming)

Lukas Tyrrell (Sailing)

 

Trefnydd Clwb y Flwyddyn

Rachel Grieve (Rugby)

Stefan Jenkins (Cricket)

Huw Jones (Golf)

 

Clwb y Flwyddyn

Haverfordwest Tennis Club

Pembroke Cricket Club

Tavernspite Short Mat Bowls Club

 

Nodiadau i olygyddion

Capsiwn: Yn y llun mae Tîm y Flwyddyn 2022,

Clwb Rhwyfo Pont Wisemans Women's Coxed Quad.