Storm Darragh: Awdurdod Lleol yn parhau i ddarparu cefnogaeth
Storm Darragh: Local Authority continues to provide support
Yn rhan o'r gwaith adfer ar ôl Storm Darragh, mae Cyngor Sir Penfro yn parhau i gynnig cymorth i'r rhai hynny sy'n dal i fod heb bŵer.
Mae nifer o drigolion yn dal heb bŵer a gwasanaethau hanfodol er bod y storm wedi mynd heibio. Mae tywydd y gaeaf yn ychwanegu at y pwysau hyn.
Gall unrhyw un sydd heb bŵer o hyd, ac sydd angen llety, gysylltu â ni'n uniongyrchol ar 01437 764551.
Yn ogystal â hyn, mae holl safleoedd canolfannau hamdden yn parhau i ddarparu lle cynnes gyda choffi, te, cyfleusterau cawod a chyfleusterau gwefru rhwng 6am a 9pm.
Gellir cysylltu â'r Grid Cenedlaethol ar 105 ac mae'r Groes Goch (0344 8711111) yn barod i gefnogi.
Gall ein hybiau cymunedol hefyd ddarparu cymorth gyda phecynnau cynnes sydd ar gael yno.
Mae generaduron ar gael i'r rhai hynny sydd heb bŵer drwy gysylltu â ni ar 01437 764551 neu enquiries@pembrokeshire.gov.uk. Os ydych chi'n adnabod unrhyw un sydd angen cymorth, cysylltwch â ni ar 01437 764551 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am – 5pm).