English icon English
Llawer o bobl wrth fyrddau yn BIC

Parti haf yn y Ganolfan Arloesi Busnes yn annog cyflogwyr i ddod yn Gyfeillgar i Faethu

Summer party at the Business Innovation Centre encourages employers to become Fostering Friendly

Cynhaliodd tenantiaid Canolfan Arloesedd y Bont (BIC), Doc Penfro Barti Haf i'w ffrindiau a'u teuluoedd ac estyn gwahoddiad i'r rhai sy'n ymwneud â gofal maeth.

Roedd hyn yn cynnwys aelodau o Dîm Rhanbarthol Maethu Cymru a Maethu Cymru Sir Benfro, tîm maethu'r awdurdod lleol, gofalwyr maeth, eu teuluoedd a'r plant maen nhw’n gofalu amdanynt.

John Likeman o Raven Technologies, un o'r nifer o fusnesau sy'n gweithredu o'r BIC, drefnodd y digwyddiad er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r angen am ofalwyr maeth yn Sir Benfro.

Mae hefyd eisiau annog busnesau i fabwysiadu polisi sy'n fwy cyfeillgar i faethu i'w galluogi i gefnogi eu gweithwyr i ddod yn ofalwyr maeth.  

"Mae angen i ni, fel cyflogwyr, fod yn adweithiol - gallu bod yn dosturiol tuag at ein cydweithwyr gofalu maeth a darparu ar eu cyfer.

"Mae'r busnesau sy'n gweithredu yng Nghanolfan Arloesedd y Bont mor garedig ac wedi ymateb mor gadarnhaol i'r digwyddiad hwn gyda llawer yn addo dod yn sefydliadau cyfeillgar i faethu a hyblyg i ran maethu," ychwanegodd Mr Likeman.

Mae Maethu Cymru yn galw ar gyflogwyr i gydnabod y cyfraniad mae gofalwyr maeth yn ei wneud a deall yr angen am rywfaint o hyblygrwydd i chwalu'r myth na allwch chi weithio os byddwch chi’n dod yn ofalwr maeth.

BIC Foster Wales

Dywedodd Nicky Sandford, Rheolwr Datblygu Rhanbarthol Maethu Cymru ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru: "Mae bron i 40 y cant o ofalwyr maeth yn cyfuno maethu â gwaith arall. Mae'r rhai sydd yn gwneud hynny wedi dweud wrthym ni y gall cyflogwr cefnogol wneud byd o wahaniaeth, gan eu galluogi i gydbwyso cyflogaeth â gofalu am blant."

Diolchodd Melany Evans, Rheolwr Gwasanaeth Plant mewn Gofal Cyngor Sir Penfro i Mr Likeman a'r BIC am eu cefnogaeth.

Ychwanegodd: "Mae mwy na 240 o blant yng ngofal yr awdurdod lleol yn Sir Benfro ac mae angen mwy o ofalwyr maeth sy'n gallu cynnig y cartrefi sefydlog a chariadus maen nhw’n eu haeddu iddynt.

"Os gall cyflogwyr gefnogi eu gweithwyr i ddod yn ofalwyr maeth, gallwn helpu mwy o blant i aros yn lleol, yn gysylltiedig â'u cymunedau, ac yn y pen draw, i gyflawni dyfodol gwell."

Hefyd yn bresennol roedd Voices from Care Cymru, llais annibynnol i'r gymuned ofal.

Melany and Nicky

Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Emma Phipps-Magill, : "Mae'n bwysig, ynghyd â gofal maeth sefydlog, bod ein plant a'n pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn cael llwybr i gysylltu â chyfoedion, cael gwrandawiad a chael dweud eu dweud wrth ddylanwadu ar newid drostyn nhw eu hunain ac eraill."

I ddarganfod mwy e-bostiwch nicky.sandford@pembrokeshire.gov.uk neu Katie.nicolle@pembrokeshire.gov.uk.

Mae mwy o wybodaeth am Maethu Cymru Sir Benfro ar gael ar-lein neu ffoniwch 01437 774650.

Yn y llun mae Katie Nicolle, Swyddog Cymorth Busnes Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru, Maethu Cymru.

Yn y llun mae Rhys Evans, Melany Evans a Nicky Sandford.