Cymorth ar gyfer ymgyrch Wythnos Dysgu yn y Gwaith yng Nghyngor Sir Penfro
Support for Learning at Work Week campaign at Pembrokeshire County Council
Fel rhan o Wythnos Dysgu yn y Gwaith, mae Cyngor Sir Penfro yn arddangos rhai o'i enghreifftiau gorau o bobl yn dysgu wrth weithio yn yr Awdurdod.
Mae'r wythnos (15-21 Mai 2023) yn ymgyrch genedlaethol flynyddol a drefnir gan Campaign for Learning, sy'n ceisio hyrwyddo datblygiad diwylliannau dysgu yn y gwaith ac amlygu manteision sylweddol dysgu a thwf parhaus.
Mae thema eleni, Creu'r Dyfodol, yn archwilio sut y gall dysgu gydol oes yn y gwaith ein helpu ni i gyd yn bersonol ac ar y cyd i greu ein dyfodol – o gyflawni nodau bywyd a gwaith, i lunio ein bywydau, ein cymunedau a'r byd, i hybu arloesedd a chyflawni uchelgeisiau sefydliadol.
Croesawodd yr Awdurdod y ffordd hon o weithio a chaiff ei hamlygu gan y Swyddog Trawsnewid, Erin Smith, a ymunodd â'r Cyngor yn 2016 mewn swydd weinyddol ac sydd wedi gweithio ei ffordd i fyny i'w rôl bresennol.
Yn ogystal â dysgu sgiliau TG newydd drwy brentisiaeth y Brifysgol Agored, mae Erin hefyd yn rhoi'r sgiliau hynny ar waith yn ddyddiol, gan eu defnyddio i lywio ei gwaith.
Mae hi a'i chydweithwyr yn canolbwyntio ar reoli data ar draws y Cyngor, sef prosiect trawsnewid allweddol, ac mae’r hyn a ddysgodd Erin ar ei phrentisiaeth yn bwydo'n uniongyrchol i'r gwaith prosiect hwnnw.
Er bod gan Erin flwyddyn arall o astudio i'w chwblhau o hyd, mae'n dweud ei bod eisoes yn elwa ar y manteision.
Dywedodd Erin: “Rwy’n hoffi symud a datblygu’n barhaus. Heb y radd hon, gallwn fod wedi mynd yn sownd, ond mae'n agor drysau i mi. Rwy'n dysgu sgiliau newydd ac yn tyfu yn y cwmni. Rwy’ mor falch fy mod wedi manteisio ar y cyfle."
I gael mwy o wybodaeth, anfonwch neges e-bost at y tîm Dysgu a Datblygu neu darganfyddwch sut y gallai’r Campaign for Learning eich helpu yn ystod eich camau nesaf.
Mae enghreifftiau eraill o fewn y Cyngor yn cynnwys -
Josh Thomas – Prentisiaeth Baragyfreithiol
"Roeddwn i wedi bod yn gweithio yn fy rôl bresennol yn yr adran gyfreithiol am rai blynyddoedd cyn i'r cyfle prentisiaeth godi gan fod y cwrs yn gymharol newydd. Rwy'n teimlo'n wirioneddol ddiolchgar i CSP am ganiatáu i mi ddilyn hyn, sydd nid yn unig wedi rhoi'r profiad ymarferol i mi wella fy ngwaith presennol, ond gyda'r gefnogaeth anhygoel a gefais gan fy nghydweithwyr, gobeithio y bydd y cwrs hefyd yn fy helpu gyda fy ngyrfa a'm huchelgeisiau yn y dyfodol."
Harvey Griffiths – Prentis mewn Gofal Cymdeithasol
"Mae fy mhrofiad fel prentis gyda CSP wedi bod yn anhygoel. Rwy’ wedi cael profiad o wahanol leoliadau, gwahanol bobl, a gwahanol ffyrdd o fyw. Mae'r profiad yn anhygoel ac rwy'n ei fwynhau'n fawr. Mae'r cymorth gan fy mentor gwaith, penaethiaid a chydweithwyr yn wych. Maen nhw i gyd mor garedig, yn gynorthwyol ac yn ddeallgar. Dyma'r opsiwn gorau i mi a gobeithio y bydd yn rhoi dyfodol disglair i mi."
Becky Jackman – Prentis mewn Cyfrifeg
"Rwy'n hynod ddiolchgar i'r Cyngor am roi'r cyfle gwych hwn i mi fel Technegydd Cyfrifeg dan Hyfforddiant. Gall dysgu rhywbeth newydd fod yn her bob amser ond rwy’n credu bod cael swydd berthnasol wrth astudio yn helpu, gan y gallwch gysylltu eich tasgau dyddiol yn eich swydd â'r cynnwys rydych chi'n ei ddysgu."
Max James – Astudio Prentisiaeth Uwch
"Mae'r brentisiaeth uwch wedi fy ngalluogi i ennill cyfoeth o wybodaeth a rhoi’r cynnwys a ddysgwyd yn y Brifysgol ar waith yn y byd go iawn. Rwy’ wedi bod yn ffodus i ddysgu gan weithwyr proffesiynol profiadol ym mhob disgyblaeth sy'n gysylltiedig ag adeiladu o fewn yr awdurdod. Fy uchelgais o ran gyrfa yw bod yn Syrfëwr Meintiau Siartredig."