English icon English
Byddwch yn llachar, byddwch yn ddiogel 1

Swyddogion diogelwch ffyrdd iau Sir Benfro yn amlinellu neges hanfodol y gaeaf hwn

Pembrokeshire’s junior road safety officers spell out essential message this winter

Byddwch yn llachar, byddwch yn ddiogel - dyna'r neges gan swyddogion diogelwch ffyrdd iau (JRSOs) newydd Sir Benfro i'w cyd-ddisgyblion ar draws y sir.

Gyda’r tywydd tywyll a gaeafol wedi cyrraedd, mae'r JRSOs yn annog disgyblion eraill i wisgo rhywbeth llachar pan fyddant y tu allan, i sicrhau y gall defnyddwyr eraill y ffordd eu gweld.

Mae eu hymgyrch yn rhan o gynllun a lansiwyd y tymor hwn gan Gyngor Sir Penfro i hybu ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar y ffyrdd ymhlith plant oed cynradd.

Gyda chefnogaeth South Hook LNG, mae'r cynllun yn rhedeg mewn deg ysgol ar hyn o bryd, a'r gobaith yw y bydd mwy o ysgolion yn ymuno y flwyddyn nesaf.


"Rydym ni wrth ein bodd gyda brwdfrydedd a gwaith caled y Swyddogion Diogelwch ar y Ffyrdd Iau," meddai'r Cynghorydd Rhys Sinnett, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Preswylwyr.

"Bob tymor byddan nhw'n dewis pwnc gwahanol i'w amlygu - ac mae neges y tymor yma am fod yn llachar yn yr awyr agored yn sicr yn un pwysig iawn.

"Rydym ni hefyd yn ddiolchgar iawn i South Hook LNG am gefnogi menter mor bwysig."

Un o'r deg ysgol sy'n rhedeg cynllun y JRSO yw Ysgol Gynradd Saundersfoot, lle mae'r JRSOs wedi cynnal cynulliad arbennig ac wedi cyd-drefnu Cerdded i'r Ysgol i dynnu sylw at eu neges ddiogelwch 'byddwch yn llachar, byddwch yn ddiogel'.

Aeth y cynghorydd sir lleol Chris Williams gyda'r daith gerdded, ynghyd â'r masgot Diogelwch ar y Ffyrdd Ziggy y Zebra a masgot Nofio Dydd Calan Saundersfoot Charlie Shivers.

Canmolodd Cynghorydd Chris Williams y gwaith sy'n cael ei wneud gan y disgyblion i hyrwyddo eu neges ddiogelwch, a dywedodd ei fod wrth ei fodd yn cymryd rhan.

Dywedodd y Cynghorydd Williams ei fod yn falch iawn o gymryd rhan.

"Rwy'n falch o'r holl waith sy'n cael ei wneud yn ein cymuned gyda'r cysylltiadau teithio llesol a fydd yn gwella hygyrchedd i bawb yn Saundersfoot," meddai.

"Mae pob ysgol yn wynebu heriau y tu allan i'w giatiau gyda phroblemau parcio ac mae'n wych gweld y plant yn ymgysylltu ac yn tynnu sylw at y cynllun cerdded i'r ysgol."

  • Bydd ysgolion eraill hefyd yn cynnal mentrau 'byddwch yn llachar' y tymor hwn, gan gynnwys Ysgol Gymunedol Golden Grove, Ysgol Gynradd Llandyfái ac Ysgol Gynradd Cleddau Reach VC.

 

Capsiynau

1. Yn y llun mae disgyblion Ysgol Gynradd Saundersfoot yn Cerdded i’r Ysgol yn gwisgo eu bandiau arddwrn, a noddir gan South Hook LNG. Hefyd yn y llun mae'r cynghorydd sir lleol Chris Williams, Ziggy the Zebra, a Charlie Shivers.

2. Mae disgyblion Ysgol Gynradd Saundersfoot yn y llun yn Cerdded i’r Ysgol yn gwisgo eu bandiau arddwrn, a noddir gan South Hook LNG, gyda'r swyddog patrôl croesfannau ysgol Sylvia Price a Helen Luff o dîm diogelwch ffyrdd y Cyngor.