
System rheoli llyfrgelloedd newydd ar gyfer Llyfrgelloedd Sir Benfro
New library management system for Pembrokeshire Libraries
Rhwng 8 a 28 Mai bydd tarfu ar wasanaeth y system gyfrifiadurol sy'n rheoli manylion aelodaeth llyfrgelloedd a chyfrifon cwsmeriaid, cofnodion trafodiadau, manylion eitemau llyfrgell a mynediad at wasanaethau digidol.
Bydd y system bresennol yn cael ei disodli gan system dros dro gan y cyflenwr newydd ar gyfer rheoli benthyciadau a dychwelyd llyfrau.
Yn ystod y cyfnod o newid ni fydd gwasanaethau fel archebion/ceisiadau, catalog ar-lein a pheiriannau hunanwasanaeth ar gael.
Bydd y llyfrgelloedd yn newid i'r system newydd gan ddechrau o ddydd Mercher, 28 Mai, pan ddylai'r gwasanaeth arferol ailddechrau.
Mae Llyfrgelloedd Sir Benfro wedi ymuno â chonsortiwm Gwasanaeth Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru gyfan. Mae'r newid cyflenwr wedi ei gefnogi gyda chyllid grant gan Lywodraeth Cymru.
Bydd y gwasanaeth newydd yn gwella'r ansawdd i gwsmeriaid ac yn costio llai na'r system bresennol.
Mae manteision y system newydd yn cynnwys gwell catalog ar-lein gyda rhyngwyneb hawdd ei ddefnyddio, rheoli cyfrifon gwell, mynediad haws i e-lyfrau, e-lyfrau sain ac asedau digidol eraill yn ogystal â chalendr o ddigwyddiadau.
Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw gynlluniau i gau unrhyw lyfrgelloedd, gan gynnwys y Gwasanaeth Symudol a Llyfrgell yn y Cartref, tra bod y gwaith yn cael ei wneud. Fodd bynnag, ni fydd mynediad heb staff yn llyfrgelloedd Arberth a Neyland ar gael nes bod y newid wedi'i gwblhau.
Byddwch yn parhau i allu benthyg llyfrau, ond rhaid i chi ddod â'ch cerdyn llyfrgell gyda chi gan na fydd staff yn gallu chwilio am eich manylion.
Bydd dyddiadau benthyca yn cael eu hymestyn ar gyfer eitemau sy'n ddyledus rhwng 8 Mai a 14 Mehefin i 16 Mehefin (neu'r diwrnod agored nesaf ar gyfer eich llyfrgell). Ni fydd unrhyw daliadau hwyr yn ystod y cyfnod hwn, ond bydd unrhyw ddyled bresennol yn cario drosodd i'r system newydd.
Bydd dwy flynedd o hanes benthyciadau yn cario drosodd i'r system newydd. Gallwch lawrlwytho eich hanes benthyciadau llawn o'r catalog ar-lein cyfredol cyn dydd Mercher, 7 Mai ar dudalen we y Gwasanaeth Llyfrgell www.sir-benfro.gov.uk/llyfrgelloedd-a-diwylliant
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trigolion, y Cynghorydd Rhys Sinnett: "Bydd rhywfaint o darfu ar wasanaethau'r llyfrgell wrth i ni newid i'r system reoli newydd ac wrth i'n staff llyfrgell ddysgu sgiliau newydd, bydd rhywfaint o darfu ar ein e-adnoddau, felly byddwch yn amyneddgar.
“Os bydd cwsmeriaid yn cofio dod â'u cerdyn llyfrgell i'r llyfrgell, gallwch barhau i fenthyg llyfrau fel arfer. O ddydd Mercher 28 Mai, byddwn yn dechrau defnyddio'r system newydd a gwell."
Dyddiadau defnyddiol
Sylwch y gallai rhai o'r dyddiadau hyn fod yn destun newid.
- Dydd Mercher, 9 Ebrill
- o Y dyddiad olaf y gellir gosod unrhyw Archebion, Ceisiadau Stoc neu Geisiadau Benthyciad Rhwng Llyfrgelloedd (gan gynnwys Grwpiau Darllen)’.
- Dydd Mercher, 7 Mai
- o Y dyddiad olaf y gallwch ddefnyddio peiriannau Hunanwasanaeth a mynediad heb staff Agor a Mwy
- o Y dyddiad olaf y byddwn yn anfon Hysbysiadau Cwrteisi a Hysbysiadau Hwyr
- Dydd Iau, 8 Mai i ddydd Sadwrn, 14 Mehefin
- o Ni fydd unrhyw eitemau yn ddyledus i’w dychwelyd yn ystod y cyfnod hwn, bydd popeth yn cael ei ymestyn tan ddydd Llun, 16 Mehefin (neu ddiwrnod gwaith nesaf ar gyfer eich llyfrgell leol).
- O ddydd Mercher, 28 Mai
- o Dyddiad disgwyliedig ar gyfer dechrau defnyddio'r system newydd (yn dibynnu ar ddiwrnodau agor y Llyfrgell).