Allwedd dal llaw i'r drws ffrynt newydd

Tai ar gau dros dro tan 28 Hydref 2026

Housing Register temporarily closed until 28 October 2026

Rhannu:

Atgoffir ymgeiswyr ar Gofrestr Tai Cartrefi Dewisedig @ Sir Benfro fod y gofrestr bellach wedi cau dros dro am gyfnod o chwe wythnos.

Bydd Polisi Dyrannu Tai diwygiedig Cartrefi Dewisedig @ Sir Benfro yn dod i rym ar 28 Hydref 2026, yn dilyn ei gyfnod gweithredu a ddechreuodd ar 27 Gorffennaf 2026.

Bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar bob ymgeisydd presennol ar y Gofrestr Tai. 

Sut bydd cau’r Gofrestr yn effeithio ar ymgeiswyr?

Yn ystod y cyfnod y bydd ar gau, ni fydd ymgeiswyr yn gallu:

  • Cyflwyno cais newydd i ymuno â'r Gofrestr Tai.
  • Derbyn hysbysebion eiddo wythnosol.
  • Rhoi cynigion ar eiddo sydd ar gael.

Dim ond ar gyfer angen brys/argyfwng a, lety y gwneir dyraniadau.

Pam mae'r Gofrestr Tai yn cau?

Mae'r Gofrestr Tai yn cael ei chau dros dro er mwyn caniatáu i'r Gwasanaethau Tai gwblhau camau olaf gweithredu Polisi Dyrannu Tai newydd Cartrefi Dewisedig @ Sir Benfro.

Dywedodd y Cynghorydd Michelle Bateman, yr Aelod Cabinet dros Weithrediadau Tai: "Mae'r Polisi Dyrannu Tai diwygiedig yn cryfhau'r pwyslais ar gefnogi anghenion tai lleol yn Sir Benfro.

“Mewn partneriaeth â'n partneriaid Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, mae hyn yn rhan o Strategaeth Tai ehangach y Cyngor i ddarparu mwy o gartrefi fforddiadwy, gwneud gwell defnydd o'r stoc dai bresennol, a gwella cyfleoedd tai i gymunedau lleol ledled y sir.”

Yn ystod y cyfnod hwn, bydd y Tîm Tai yn asesu ceisiadau sy'n weddill, yn pennu bandio blaenoriaeth, ac yn cyhoeddi pecynnau croeso i ymgeiswyr cymwys wrth baratoi ar gyfer lansio'r polisi newydd ar 28 Hydref 2026.

Bydd y Gwasanaethau Tai hefyd yn gwneud ymgais olaf i gysylltu ag ymgeiswyr sy’n agored i niwed nad ydynt wedi cwblhau'r broses ymgeisio eto. Mae hyn yn dilyn rhaglen helaeth o ymgysylltu trwy lythyrau, e-byst, negeseuon testun, galwadau ffôn, a chyfathrebu drwy’r cyfryngau cymdeithasol yn ystod y misoedd diwethaf.

Bydd cau’r Gofrestr dros dro hefyd yn caniatáu amser i wneud diweddariadau hanfodol i'r systemau TG sy'n cefnogi'r Gofrestr Tai, gan sicrhau eu bod yn cyd-fynd â gofynion y polisi newydd cyn i'r gofrestr ailagor.

Bydd ymgeiswyr nad ydynt yn darparu'r wybodaeth sydd ei hangen i ddangos eu bod yn bodloni'r meini prawf cymhwyso, neu nad ydynt yn dymuno aros ar y Gofrestr Tai mwyach, yn cael gwybod yn unol â hynny.

Camau angenrheidiol ar gyfer ymgeiswyr

Rydym yn annog yn gryf bod unrhyw un nad yw wedi cwblhau'r broses ymgeisio eto, ond sy'n dymuno aros ar Gofrestr Tai Cartrefi Dewisedig @ Sir Benfro, yn cysylltu â'r Tîm Tai cyn gynted â phosibl.

Sylwch y bydd cais ymgeiswyr nad ydynt yn ailymgeisio o dan y trefniadau polisi newydd yn cael ei gau.

Os nad ydych yn dymuno aros ar y Gofrestr Tai mwyach, rhowch wybod i'r Tîm Tai er mwyn iddynt eich tynnu oddi ar ein rhestr gyswllt.

Lansio'r polisi newydd

Bydd polisi Dyrannu Tai diwygiedig Cartrefi Dewisedig @ Sir Benfro yn lansio ar 28 Hydref 2026.

O'r dyddiad hwn, bydd y Gofrestr Tai yn ailagor, bydd eiddo yn cael eu hysbysebu unwaith eto, a bydd ymgeiswyr cymwys wedyn yn gallu cynnig am lety addas.

Cymorth ychwanegol ar gael

Mae Tîm Tai Cyngor Sir Benfro yn cydnabod y gofynion ychwanegol ar ymgeiswyr o ganlyniad i'r newidiadau polisi.

Rydym yn deall yr effaith y mae newidiadau o'r fath wedi'u cael ar gymhwystra ymgeiswyr a bandio blaenoriaeth, ynghyd â'r anawsterau a brofwyd gan rai i gwblhau'r broses ymgeisio i fodloni'r meini prawf cymhwyso newydd. 

Ychwanegodd y Cynghorydd Bateman: "Mae cau'r Gofrestr Tai dros dro yn gam sylweddol wrth gyflawni'r Polisi Dyrannu Tai newydd. Rydym wedi gweithio'n galed i ymgysylltu ag ymgeiswyr presennol trwy gydol y broses hon, gan ddarparu gwybodaeth, arweiniad a chefnogaeth i'w helpu i ddeall y newidiadau a chwblhau eu ceisiadau.

“Ein blaenoriaeth yw gwneud y pontio mor syml â phosibl a sicrhau bod pawb yn cael y cyfle gorau i aros ar y Gofrestr Tai os ydynt yn bodloni'r meini prawf cymhwyso newydd.”

Wrth i ni drosglwyddo i'r polisi newydd dros y misoedd nesaf, bydd ein timau yn parhau i ddarparu cefnogaeth ac arweiniad i ymgeiswyr i’w cynorthwyo drwy'r broses hon. 

Gall ymgeiswyr sy'n cael anawsterau wrth gwblhau'r broses neu wrth gasglu tystiolaeth ategol gysylltu â'r tîm drwy e-bost ar choicehomeschange@pembrokeshire.gov.uk , neu dros y ffôn ar 01437 776603.

Yr hawl i ofyn am adolygiad

Os yw ymgeisydd yn anghytuno â phenderfyniad sy'n ymwneud â'i Gais Tai Cartrefi Dewisedig @ Sir Benfro, mae ganddynt yr hawl i ofyn am adolygiad o fewn 21 diwrnod ar ôl cael gwybod am y penderfyniad hwnnw.  Bydd gwybodaeth am y broses adolygu yn cael ei chynnwys o fewn unrhyw ohebiaeth am y penderfyniad.

I gael rhagor o wybodaeth am y polisi hwn, ewch i www.cartrefidewisedigsirbenfro.org