
Tai newydd yn Hook wedi'u cynnwys yng nghynllun tai fforddiadwy'r Cyngor
New houses in Hook included in Council affordable homes plan
Mae cynlluniau i brynu 10 eiddo dwy ystafell wely ym mhentref Hook wedi'u cymeradwyo gan Aelod Cabinet Cyngor Sir Penfro dros Tai.
Bydd y caffaeliad yn cael ei ariannu gyda chymorth grant gan Lywodraeth Cymru, ac mae Kooner Properties Ltd yn datblygu'r safle ar hyn o bryd.
Dywedodd y Cynghorydd Michelle Bateman, Aelod Cabinet dros Tai: "O ystyried y galw uchel am dai fforddiadwy mewn cymunedau ledled Sir Benfro, mae sicrhau'r safle hwn yn newyddion cadarnhaol.
“Mae cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy yn ymrwymiad allweddol i'r weinyddiaeth hon ac mae'r cartrefi newydd o ansawdd uchel hyn yn Hook yn rhan o raglen ddatblygu ehangach sy'n cynnwys safleoedd ledled y Sir. Edrychaf ymlaen at weithio gyda'r gymuned leol ar bolisi gosod lleol ar gyfer yr eiddo hyn."
Cynhelir digwyddiad ymgysylltu â'r gymuned ynglŷn â'r polisi gosod lleol ddydd Mercher, 9 Ebrill, 4.30pm i 6.00pm, yng Nghlwb Chwaraeon a Chymdeithasol Hook, Heol y Drenewydd, Hook.
Bydd angen i ymgeiswyr sydd â diddordeb fod â chais tai cyfredol.
Dywedodd y Cynghorydd Michael John, Aelod Lleol Llangwm: "Mae'r prinder cartrefi fforddiadwy yn ein pentrefi wedi bod yn fater a godwyd gyda mi sawl gwaith dros y blynyddoedd, ac felly, mae gweld y cyngor yn prynu'r tai fforddiadwy newydd hyn o ansawdd uchel yn Hook yn gam i'w groesawu.
“Mae'n dda iawn gweld y bydd polisi gosod lleol cryf wedi'i gytuno gyda'r cyngor cymuned, gan fod hyn yn mynd rhywfaint o’r ffordd i gwrdd â'r galw lleol a bydd yn sicr yn helpu teuluoedd lleol ifanc i aros yn eu hardal leol.
"Hoffwn ddiolch i'r tîm tai yn CSP am eu gwaith wrth sicrhau'r eiddo hyn ar gyfer y pentref."
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost at y Tîm Cyswllt Cwsmeriaid ar devCLO@pembrokeshire.gov.uk neu ffoniwch nhw ar 01437 764551, neu edrychwch ar ein tudalen Tai ar Facebook.