English icon English
West Street Abergwaun

Tair tref arall i elwa o gynllun paentio

Further three towns to benefit from paint scheme

Gall busnesau'r Stryd Fawr mewn tair tref arall wneud cais am gyllid i adfywio eu heiddo.

Mae busnesau ar Stryd y Gorllewin a Stryd Fawr Abergwaun, Prif Stryd Penfro a Stryd Dimond a Heol y Frenhines yn Noc Penfro bellach wedi'u cynnwys yn y Cynllun Paentio Strydlun.

Cafodd y cynllun paent, sy'n rhan o Raglen Gwella Strydoedd Cyngor Sir Penfro, yn gynharach yn y flwyddyn yn Aberdaugleddau, cyn cael ei ymestyn i Hwlffordd.

Bydd y gronfa'n cefnogi perchnogion eiddo cymwys a thenantiaid/lesddeiliaid sydd â chaniatâd ysgrifenedig perchennog yr eiddo. Gellir defnyddio grantiau i brynu deunyddiau (primer, tangôt cerrig a phaent cerrig allanol) neu tuag at gost defnyddio contractwr.

Bydd y grantiau'n darparu 80 y cant o gyfanswm y gwariant cyfalaf a'r uchafswm grant i bob eiddo yw £4,999. Rhaid cwblhau'r cynlluniau erbyn mis Tachwedd 2024.

I gael gwybodaeth lawn am y Cynllun Paentio Strydlun, gan gynnwys manylion cymhwysedd y grant a dolen i wneud cais am y cynllun

Mae'r prosiect yn cael ei ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a’r Gronfa Ffyniant Bro i annog canol trefi bywiog, cynnal a chynyddu nifer yr ymwelwyr i gefnogi siopau, lleihau adeiladau gwag, creu swyddi ac annog byw yng nghanol trefi.