English icon English
Youth members and youth workers on visit to Oberkirch town hall

Taith cyfnewid dysgu rhyngwladol i bobl ifanc Hwlffordd i gefeilldref yn yr Almaen

International learning exchange trip for Haverfordwest young people to German twin town

Fis diwethaf teithiodd 20 o bobl ifanc o Glwb Ieuenctid Hwlffordd i Oberkirch yn yr Almaen, sydd wedi'i gefeillio â Hwlffordd ers 1989.

Ariannwyd yr antur Ewropeaidd yn llawn drwy raglen Taith, rhaglen cyfnewid dysgu rhyngwladol Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Roedd yr ymweliad pum diwrnod ag Oberkirch yn rhoi cyfle i bobl ifanc, yng nghwmni eu gweithwyr ieuenctid, brofi diwylliant newydd, sefydlu cyfeillgarwch newydd a chyfrannu at eu datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgol.

I rai o'r bobl ifanc dyma'r tro cyntaf iddyn nhw deithio i Ewrop a phrofi’r diwylliant Ewropeaidd.

Cymerodd y grŵp ran mewn rhaglen brysur o weithgareddau, gan gynnwys ymweliadau hanesyddol, taith i Strasbwrg gerllaw, pwll awyr agored ac roeddent yn ffodus o gael eu gwahodd i dderbyniad yn y Rathaus (Neuadd y Dref) lle cawsant groeso cynnes gan y Maer, Bürgermeister Christoph Lipps a Nicole Trayer, Pennaeth Staff.

Ar y diwrnod olaf, ymwelodd y grŵp ag adfeilion Castell Schauenburg, lle cawsant olygfa ysblennydd yn uchel uwchben tref Oberkirch. Nododd adborth gan bobl ifanc mai'r hyn yr oeddent yn ei hoffi yn arbennig am Oberkirch oedd glendid y lle a chyfeillgarwch y bobl a'r golygfeydd a'r dirwedd hardd.

Dywedodd Liz Griffiths, Rheolwr y Tîm Ieuenctid Cymunedol: "Mae'r profiad o gymryd rhan yn y rhaglen cyfnewid dysgu rhyngwladol hon wedi cyfoethogi profiadau diwylliannol, teithio a dysgu'r bobl ifanc. Roedden nhw'n llysgenhadon ardderchog i Glwb Ieuenctid Hwlffordd, a gwnaeth ein ffrindiau yn Oberkirch sylwadau ar eu moesau da a pha mor dda roedden nhw'n cynrychioli eu tref enedigol".

Mae aelodau Clwb Ieuenctid Hwlffordd yn edrych ymlaen at groesawu pobl ifanc Oberkirch ar ymweliad yn ôl i Hwlffordd yn 2025.

Mae Ieuenctid Sir Benfro yn darparu profiadau, cyfleoedd, gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth bersonol i bobl ifanc 11-25 oed.

Taith logo 2

Llun: Pobl ifanc o Glwb Ieuenctid Hwlffordd a'u gweithwyr ieuenctid gyda Bürgermeister Christoph Lipps a Phennaeth Staff, Nicole Trayer, yn ystod eu hymweliad â'r Rathaus, Oberkirch.