English icon English
Enillwyr amrywiol yr Ŵyl Gerddoriaeth gyda’u hofferynnau a Stepehn Thornton o Valero a Philippa Robers, pennaeth PMS

Talentau cerddorol anhygoel pobl ifanc yn cael eu dathlu mewn gŵyl

Young people’s incredible musical talents celebrated at festival

Y trympedwr Carys Wood o Ysgol Uwchradd WRh Hwlffordd oedd yr enillydd cyffredinol yng Ngŵyl Gerdd Valero Ysgolion Uwchradd eleni.

Cynhaliwyd yr ŵyl flynyddol, a drefnir gan Wasanaeth Cerdd Cyngor Sir Penfro ac a noddir gan Valero, yn Ysgol Caer Elen ddydd Sadwrn (19 Tachwedd).

Bu mwy na 240 o gerddorion ifanc o bob un o wyth ysgol uwchradd sirol y Sir, Coleg Sir Benfro a thu hwnt yn cymryd rhan mewn cystadlaethau unigol ac ensemble trwy gydol y dydd.

Yn ddiweddarach yn y prynhawn, mwynhaodd cynulleidfa frwd gyngerdd yn arddangos yr enillwyr unigol ac enillwyr y cystadlaethau ensemble offerynnol a lleisiol.

Yn ystod y dydd, derbyniodd pob perfformiwr a oedd yn gyntaf, yn ail ac yn drydydd yn eu dosbarth fathodyn i gydnabod eu cyflawniad.

Dywedodd Philippa Roberts, Pennaeth Gwasanaeth Cerdd Sir Benfro: “Hoffwn longyfarch pob cerddor ifanc a fu’n perfformio ac yn cefnogi ei gilydd ddydd Sadwrn.Hefyd, diolch o galon i Valero, Cyfeillion Cerddorion Ifanc Sir Benfro a’r tîm beirniadu proffesiynol a chalonogol sy’n parhau i gefnogi Gwasanaeth Cerdd Sir Benfro a’n disgyblion.”

Mynegodd Sean O’Neill, beirniad yr ensembles, ei edmygedd o’r diwrnod. “Roedd safon y gerddoriaeth gan yr holl gerddorion ifanc yn rhagorol ac mae llwyth o dystiolaeth o dalent a photensial yn dod drwodd ar gyfer y dyfodol! Roedd yn bleser mawr bod yn rhan o’r digwyddiad.”

Music Festival 2

Cyflwynwyd cwpan yr enillwyr cyffredinol i’r trympedwr Carys Wood gan y beirniad pres Corey Morris.Yn gynharach yn y dydd, perfformiodd Carys Virtuosity gan Kenny Baker.

Enillydd y gystadleuaeth Chwythbrennau Agored oedd James Townsend o Ysgol Uwchradd WRh Hwlffordd, a berfformiodd Czardas gan Monti.

Enillydd y gystadleuaeth Llinynnau Agored oedd y sielydd Isabel Raymond o Ysgol Caer Elen a berfformiodd Tarantella gan WH Squire.

Yr enillydd Jazz Agored oedd Dylan Sanders-Swales o Ysgol Uwchradd WRh Hwlffordd a berfformiodd ei drefniant ei hun o Whirlybird. Dylan hefyd oedd enillydd y dosbarth Offerynnau Taro Agored. Perfformiodd Super Mario Medley a drefnodd ei hun hefyd.

Enillwyd y dosbarth Piano a Thelyn Agored gan Jencyn Corp o Ysgol Bro Preseli a berfformiodd ei gyfansoddiad ei hun, Yr Afon.

Enillwyd y Gystadleuaeth Leisiol Agored gan Rhys Williams o Ysgol Harri Tudur, a ganodd “It’s hard to speak my heart” o’r sioe gerdd, Parade.

Enillydd cyntaf y dosbarth Gitâr Agored newydd oedd Willis Riley o Greenhill, a berfformiodd The Trooper gan Iron Maiden.

Enillwyr y dosbarth Ensemble Lleisiol Agored oedd ensemble lleisiau uchaf Ysgol Uwchradd WRh Hwlffordd. Fe wnaethon nhw berfformio cymysgedd Adele o Rumour has it/Someone like you.

Enillwyd cystadleuaeth yr Ensemble Offerynnol Agored gan Jencyn Corp a Lefi Dafydd o Ysgol Bro Preseli, Deuawd piano, yn perfformio darn gan Grieg.

Enillwyr yr ensemble Roc a Phop Agored cyntaf oedd The Messiaens o Ysgol Uwchradd WRh Hwlffordd. Fe wnaethon nhw berfformio Superstition gan Stevie Wonder.

Music festival 3

Roedd neuadd Ysgol Caer Elen dan ei sang wrth i deuluoedd, ffrindiau, a disgyblion oedd wedi perfformio yn gynharach yn y dydd i gyd aros i gefnogi’r enillwyr agored.

Roedd y beirniaid proffesiynol gwadd - Timothy Angel, lleisiol; Sean O’Neill, ensemble; Christopher Vale, chwythbren; Corey Morris, pres; Karin Jenkins, llinynnau; Bethan Harkin, y piano a’r delyn; Ben Richards, offerynnol; Nick Baron, offerynnau taro, gitâr a Jazz – wedi’u plesio’n fawr gan safon uchel a chryfder cerddoriaeth ysgolion ar draws y Sir.

Diolchodd cydlynydd digwyddiadau Gwasanaeth Cerdd y Sir, Miranda Morgan, i’r beirniaid, yr athrawon, y rhieni a’r myfyrwyr am wneud yr Ŵyl yn gymaint o lwyddiant.

“Rydym ni wedi ein syfrdanu gan y nifer o bobl ifanc sydd wedi cymryd rhan yn yr ŵyl eleni – roedd dros ddwbl y nifer yn cymryd rhan eleni o’i gymharu â’r llynedd sy’n wych i’w weld. Mae safon y chwarae wedi bod yn drawiadol drwyddi draw ac mae wedi bod yn wych ehangu ein dosbarthiadau i gynnwys ensembles gitâr a roc a phop eleni.”

Roedd canlyniadau’r diwrnod fel a ganlyn:

CHWYTHBREN

Ffliwt gradd 3

1af – Tilly Laugharne – Ysgol Bro Gwaun

2il – Mali Jones-Hughes – HHVC

3ydd – Erin Dando – MHS

Clarinet a sacsoffon gradd 3

1af – Sophie Gilmartin – Greenhill

2il – Emily Dickinson – Greenhill

3ydd – Jed Cox – Greenhill

Canmoliaeth uchel – Katherine Jones – Harri Tudur

Chwythbren gradd 4

1af – Tom Pounder – MHS

2il – Ollie Towe – Ysgol Bro Preseli

3ydd – Bethan Packard – MHS

Chwythbren gradd 5

1af – Ffion Evans – Ysgol Caer Elen

2il – Catrin Jones – Ysgol Caer Elen

3ydd – Ela-Gwennon Jones – Ysgol Caer Elen

Chwythbren gradd 6

1af – Noah Jenkins – HHVC

2il – Gemma Armstrong – Ysgol Bro Preseli

3ydd – Alice Hillen – HHVC ac Eryn Howlett – MHS

Chwythbren agored

1af – James Townsend – HHVC

2il – Jencyn Corp – Ysgol Bro Preseli

3ydd – Harry Armstrong – MHS

 

PRES

Pres gradd 3 a 4

1af – Elwyn Powell – Ysgol Bro Gwaun

2il – Owain Williams – HHVC

3ydd – Harry Thomas – Ysgol Penrhyn Dewi

Canmoliaeth uchel – Isabella Tawn – HHVC

Pres gradd 5

1af – Eliza Wood – Greenhill

2il – Archie Noyce – Greenhill

3ydd – Gwilym Jones – Ysgol Bro Preseli

Pres gradd 6

1af – Seren Barrett – Greenhill

2il – Ioan Bromby – Greenhill ac Andrew Johnson – Ysgol Bro Preseli

3ydd – Jaap Harris – Ysgol Bro Preseli

Canmoliaeth uchel – Matthew Shaw – Greenhill, Arlo Jones – Greenhill, Kellan Rycroft – Ysgol Bro Preseli

Pres agored

1af – Carys Wood – HHVC (ac enillydd cyffredinol 2023)

2il – Carys Rycroft – Ysgol Bro Preseli

3ydd – Filip Middlemist – HHVC

LLINYNNAU

Gradd 3

1af – Brooke Patterson – Ysgol Bro Gwaun

2il – Debora Calocane – HHVC

3ydd – Emma Nicholas – Greenhill ac Eira Kaill-Franks – Ysgol Penrhyn Dewi

Canmoliaeth uchel – Janelle Cabral - HHVC

Gradd 4

1af – Ruby Rapi – Ysgol Bro Preseli ac Elena Gould

2il – Sara James – Ysgol Caer Elen

3ydd – Kitty Kingsnorth

Canmoliaeth uchel – Grace Tilbury – Harri Tudur

Gradd 5

1af – Annabel John – Ysgol Penrhyn Dewi

2il – Cosmo Karenin – Ysgol Bro Gwaun

3ydd – Anwen Sims – Ysgol Caer Elen

Gradd 6

1af – Seren Barrett – Greenhill a Mia Burnett – HHVC

2il – Tom Bridger – Ysgol Penrhyn Dewi

3ydd – Gwenna Kennerley – HHVC

Canmoliaeth uchel – Esyllt Corp – Ysgol Bro Preseli

Llinynnau agored

1af – Isabel Raymond – Ysgol Caer Elen

2il – Maria Cabral – HHVC

3ydd – Daisy Whitfield – Ysgol Bro Preseli

Canmoliaeth uchel – Freya Prout – Coleg Sir Benfro ac Ella Bromby – Greenhill

Y PIANO A'R DELYN

Gradd 3 a 4

1af – Harry Thomas – Ysgol Penrhyn Dewi

2il – Anwen Sims – Ysgol Caer Elen

3ydd - Steffan James – Ysgol Caer Elen

Canmoliaeth uchel – Martha Bhari – Harri Tudur

Gradd 5

1af – Abbie Collinson – Greenhill

2il – Sara James – Ysgol Caer Elen a Siddha Saini – Ysgol Bro Preseli

3ydd – Tom Bridger – Ysgol Penrhyn Dewi ac Elena Gould (addysg gartref)

Gradd 6

1af – Cosmo Karenin – Ysgol Bro Gwaun

2il – Sebastian Semaani-Rodriguez – Ysgol Penrhyn Dewi a Megan Evans – Ysgol Caer Elen

3ydd – Emily Thomas – Greenhill

Canmoliaeth uchel – Matthew Shaw – Greenhill ac Isabel Ramond – Ysgol Caer Elen

Piano agored

1af – Jencyn Corp – Ysgol Bro Preseli

2il – Lefi Dafydd – Ysgol Bro Preseli

3ydd – Iestyn Barrellie – Greenhill

Canmoliaeth uchel – Jenifer Rees

CIT DRYMIAU/OFFERYNNAU TARO

Gradd 3-6

1af – William Rowe – Penrhyn Dewi

2il – Sam Berry – Ysgol Bro Gwaun a Jensen Luker – Ysgol Caer Elen

Cit Drymiau agored

1af – Dylan Sanders-Swales – HHVC

2il – Libby Phillips – HHVC

GITÂR

Gradd 3-5

1af – Lewis Murray – Ysgol Bro Gwaun

2il – Steffan James – Ysgol Caer Elen

Gitâr agored

1af – Willis Riley – Greenhill

JAZZ

Gradd 3-5

1af – Tom Pounder – MHS

2il – Eryn Howlett – MHS

Jazz agored

1af – Dylan Sanders-Swales – HHVC

2il – Jencyn Corp – Ysgol Bro Preseli

3ydd – Jed Davies – Coleg Sir Benfro

CERDDORIAETH LEISIOL

Cerddoriaeth leisiol boblogaidd blynyddoedd 7-9

1af - Bella Carrol - Harri Tudur

2il - Sophie Jones - Harri Tudur

3ydd - Maisie Tennick - Caer Elen

Canmoliaeth uchel - Davinia Foster - Harri Tudur

Cerddoriaeth leisiol boblogaidd blynyddoedd 10-13

1af - Millie Evans-Thomas - Greenhill

2il - Honey Johnston – HHVC, Mia Young – Greenhill a Libby Banner - HHVC

3ydd - Lacey-May Mattson – HHVC a Gwenna Kennerley - HHVC

Canmoliaeth uchel – Theo Butland - Harri Tudur

Theatr gerddorol a cherddoriaeth leisiol  glasurol blynyddoedd 7-9

1af - Maya Welton – Ysgol Bro Preseli

2il - Claire Hooper-Rees - HHVC

3ydd - Martha Bhari - Harri Tudur a Rosabelle Chatwin – Ysgol Caer Elen

Canmoliaeth uchel - Caitlyn Sanders-Swales – MHS

Theatr gerddorol a cherddoriaeth leisiol  glasurol blynyddoedd 10-13

1af - Ella Bromby - Greenhill

2il - Iestyn Finch - HHVC

3ydd - Mia Burnett – HHVC a Bella McCare - HHVC

Canmoliaeth uchel - Edie Morris – Ysgol Penrhyn Dewi

Cerddoriaeth leisiol agored

1af - Rhys Williams - Harri Tudur

2il - Eliza Jessica Bradbury - Coleg Sir Benfro

3ydd - Megan Lloyd - MHS

Canmoliaeth uchel - Bethan Raymond – HHVC

ENSEMBLES

Ensemble offerynnol gradd 5-

1af – Pedwarawd ffidil Ysgol Bro Preseli

2il – Triawd clarinet Greenhill

Ensemble offerynnol agored

1af – Ysgol Bro Preseli deuawd piano

2il – Ysgol Bro Preseli piano a ffliwt

3ydd – Pedwarawd ffidil HHVC

Ensemble lleisiol agored

1af – Ensemble lleisiau uwch HHVC

2il – ensemble lleisiau is HHVC

3ydd – Ensemble lleisiol Harri Tudur

Ensemble roc a phop gradd 5-

1af – Ysgol Caer Elen

2il – HHVC

3ydd – Harri Tudur

Canmoliaeth uchel – HHVC Band 2

Ensemble roc a phop agored

1af – “The Messiaens” – HHVC

2il – HHVC KS4 band

3ydd – Band ysgol Greenhill

Canmoliaeth uchel – HHVC Band #1

 

Nodiadau i olygyddion

Enillwyr amrywiol yr Ŵyl Gerddoriaeth gyda’u hofferynnau a Stepehn Thornton o Valero a Philippa Robers,Pennaeth Gwasanaeth Cerdd Sir Benfro