Danteithion blasus yn dod â phobl ifanc a phobl sy'n gwneud penderfyniadau ynghyd yn y Bake Off blynyddol.
Tasty treats bring young people and decision makers together at annual Great Council Bake Off
Yn 'bake off' blynyddol Cyngor Ieuenctid Aberdaugleddau cafwyd amrywiaeth o gacennau a danteithion blasus i'w beirniadu.
Gosodwyd pabell fawr yng Nghanolfan Ieuenctid Aberdaugleddau ar gyfer y digwyddiad ar 22 Awst, gyda chefnogaeth y Swyddfa Hawliau Plant a Phobl Ifanc.
Nod y digwyddiad yw hyrwyddo gwaith partneriaeth gwych rhwng pobl ifanc a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau gyda saith tîm yn cydweithio i ddangos eu sgiliau pobi.
Doedd beirniadu'r saith ymgais ddim yn dasg hawdd i Gadeirydd Cyngor Sir Penfro, y Cynghorydd Tom Tudor, Paul Davies AS a'r Aelod Seneddol Stephen Crabb.
Cyflwynodd timau o Gyngor Ieuenctid Aberdaugleddau, Lleisiau Ifanc Sir Benfro, Banc Ieuenctid, Cynulliad Ieuenctid Sir Benfro, Cyngor Ieuenctid Hwlffordd, Gwarcheidwaid Diogelwch Iau Sir Benfro a Digartrefedd Ieuenctid i gyd gacennau gwych.
Yr enillwyr oedd Amber Baker o Leisiau Ifanc Sir Benfro a Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu, Beth Hawkridge o Dîm Plismona Cymdogaeth Aberdaugleddau gyda'u brownies caramel hallt blasus gyda mefus wedi'u gorchuddio â siocled.
Dywedodd y Swyddog Hawliau Plant a Phobl Ifanc, Nadine Farmer, fod y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol gyda llawer o drafodaethau'n cael eu cynnal rhwng pobl ifanc a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau.
"Mae'n ffordd wych o chwalu rhwystrau a chael hwyl ar yr un pryd," ychwanegodd.
Dywedodd y Cynghorydd Tudor: "Roedd yn bleser gennyf dderbyn y dasg anodd dros ben o fod yn un o'r beirniaid gyda Paul Davies AS a’r Aelod Seneddol Stephen Crabb. Llongyfarchiadau i'r enillydd, Amber o Leisiau Ifanc. Roedd yr holl geisiadau yn wych, a diolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran yn y gwaith o drefnu'r digwyddiad gwych hwn."