English icon English
llawer iawn o sbwriel yn yr ardd

Tenant yn wynebu bil mawr gan y llys am anwybyddu rhybuddion i waredu sbwriel

Tenant facing large court bill for ignoring warnings to remove rubbish

Mae tenant a barhaodd i adael i sbwriel bentyrru y tu allan i’w gartref, er iddo gael sawl rhybudd, yn wynebu bil sylweddol gan y llys.

Cafodd Richard Cook o Trafalgar Road, Hwlffordd, Hysbysiad Gwarchod y Gymuned yn dilyn sawl achos pan gafodd sbwriel a gwastraff cartref eu gadael y tu allan i’r eiddo.

Trodd y sefyllfa yn un a oedd yn cael ei hystyried yn risg i iechyd, diogelwch a lles y cyhoedd ac roedd y sbwriel yn denu llygod mawr.

Er gwaethaf ymweliadau gan staff Gwasanaethau Amgylcheddol Cyngor Sir Penfro i addysgu a chynnig cyngor, ynghyd â rhybuddion gan swyddogion Iechyd y Cyhoedd ac ATEB, landlordiaid Mr Cook, ni newidiodd y sefyllfa.

Cafodd yr Hysbysiad Gwarchod y Gymuned ei gyhoeddi ar 29 Tachwedd 2023, gan ei gwneud yn ofynnol i Mr Cook symud pob darn o wastraff sbwriel a gwastraff cartref o’r tir y tu blaen a’r tu cefn i’r eiddo a’i waredu’n briodol o fewn 14 diwrnod.

Pan gafodd yr Hysbysiad Gwarchod y Gymuned ei gyflwyno, roedd casgliad mawr o sachau sbwriel du heb eu gorchuddio gan gynnwys gwastraff cartref, hen flychau cardbord a drws wedi’i dorri wedi’u gadael o flaen yr eiddo.

Sbwriel Cartref 1

Ddydd Mercher 13 Rhagfyr 2023, aeth Swyddog Iechyd y Cyhoedd Cyngor Sir Penfro i’r eiddo eto gan ddarganfod bod sbwriel / gwastraff cartref a thoreth o fagiau du heb eu gorchuddio yn dal i fod wedi’u pentyrru mewn tomen fawr o flaen yr eiddo.

Nid oedd y tenant chwaith wedi gwneud unrhyw ymdrech o gwbl i glirio’r sbwriel a gwastraff a oedd wedi cronni ar dir yng nghefn yr eiddo.

Yn dilyn hynny cafodd ei erlyn am dorri’r Hysbysiad Gwarchod y Gymuned.

Methodd Mr Cook â mynychu Llys Ynadon Hwlffordd ddydd Iau 4 Ebrill 2024 a chafodd yr achos ei brofi yn ei absenoldeb.

Cafodd ddirwy o £440 ac mae’n rhaid iddo dalu gordal o £176, ynghyd â chostau llawn o £1,235.90.

Bydd y Cyngor nawr yn ystyried cymryd camau gweithredu uniongyrchol a chael y swm sy’n weddill yn ôl gan Mr Cook.

Dywedodd y Cynghorydd Michelle Bateman, Aelod Cabinet y Cyngor dros Weithrediadau Tai a Gwasanaethau Rheoleiddio: "Mae ein swyddogion a’n partneriaid o ATEB wedi ceisio ymgysylltu â Mr Cook sawl gwaith a cheisio datrys y mater hwn heb orfod troi at orfodaeth.

"Fodd bynnag, mae’r ceisiadau wedi cael eu hanwybyddu’n llwyr ac nid oes gennym unrhyw ddewis ond defnyddio’r pwerau sydd ar gael i orfodi gwaredu’r gwastraff hwn sy’n denu llygod mawr a fermin.

"Rwy’n croesawu penderfyniad y llys i orfodi dirwy sylweddol yn yr achos hwn."