cwpl y tu allan i'w tŷ cyngor newydd Ricky a Jodie Wahrton

Tenantiaid newydd a rhai sy'n dychwelyd yn dathlu cwblhau tai cyngor Tiers Cross

New and returning tenants celebrate completion of Tiers Cross council houses

Rhannu:

Mae Cyngor Sir Penfro yn dathlu cwblhau datblygiad tai Tudor Place yn Tiers Cross, a adeiladwyd gan Grŵp Tycroes.

Mae hwn yn gam pwysig a chadarnhaol i denantiaid, gan gynnig newid sylweddol, trwy ddarparu eiddo o ansawdd uchel, sy'n effeithlon yn thermol ac sy'n diwallu anghenion cynyddol tenantiaid, nawr ac yn y dyfodol. 

Roedd y broses o ddyrannu eiddo yn Tudor Place yn ei gwneud yn ofynnol i denantiaid ddangos bod ganddynt gysylltiad lleol â Tiers Cross a'r ardaloedd cyfagos.

Ar ôl cwblhau'r safle, bydd 11 o dai cyngor cynaliadwy a fforddiadwy yn cymryd lle  deg hen gartref parod, a fydd yn cael eu defnyddio i gartrefu tenantiaid cymdeithasol a helpu i fynd i'r afael â'r angen ehangach am dai ledled Sir Benfro.  

Dywedodd Victoria sy’n denant i’r cyngor: "Wedi byw yn Tiers Cross am dros 30 mlynedd, mae gwylio datblygiad Tudor Place wedi bod yn hynod gyffrous. Mae’r Tudor Place newydd wedi dod â bywyd newydd i'r pentref, gyda dyluniad cyfoes a syml yr adeiladau newydd. "Mae'n hynod gyffrous ac rydym ni, fel teulu, yn teimlo'n freintiedig iawn ein bod wedi bod yn ddigon ffodus i gael tenantiaeth. Teulu cyfoes mewn cartref cyfoes."

Ychwanegodd Zoe, tenant arall: "Rydym ni fel teulu yn hynod o hapus i fod yn symud yn ôl gartref i Tiers Cross lle gallwn ddechrau pennod newydd sbon a chreu atgofion newydd."

Croesawodd yr Aelod Cabinet dros Dai, y Cynghorydd Michelle Bateman, y datblygiad ac amlygodd ei gyfraniad i'r strategaeth hirdymor o gynyddu stoc dai y Cyngor.

"Mae ein Rhaglen Datblygu Tai yn defnyddio ystod o ddulliau sy'n cynnwys adeiladu, caffael a gweithio gyda datblygwyr preifat drwy ddarparu eiddo cwbl barod i fyw ynddynt i gynyddu’r stoc tai.

"Mae Strategaeth Tai’r Cyngor yn glir o ran pwysigrwydd cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy i ddiwallu anghenion lleol, ac ar yr un pryd, cefnogi pobl i fyw'n annibynnol am fwy o amser yn eu cartrefi eu hunain, gyda’r bwriad o ddarparu cartrefi am oes.

Yr ychwanegiad diweddaraf hwn fydd y cyntaf o lawer i'n trigolion yn Sir Benfro," meddai.  

Dywedodd y Cynghorydd Dave Procter, Cadeirydd Cyngor Cymuned Tiers Cross: "Fel cyngor cymuned, rydym wrth ein bodd bod prosiect Tudor Place wedi ei gwblhau. Mae llawer o heriau wedi bod ar hyd y ffordd ond mae'r canlyniad terfynol yn edrych yn wych, rydym yn gobeithio y bydd y preswylwyr newydd yn mwynhau eu cartrefi ac yn dod yn breswylwyr gweithgar yn y gymuned."

 

Yn y llun: Tenantiaid Ricky a Jodie