English icon English
Arwydd 20mya

Un wythnos i fynd tan ddyddiad cau yr ymgynghoriad 20mya

One week to go until 20mph consultation deadline

Ym mis Gorffennaf 2022, pasiodd y Senedd ddeddfwriaeth i leihau'r terfyn cyflymder diofyn o 30mya i 20mya ar ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru.

Bydd y ddeddfwriaeth yn dod i rym ledled Cymru, gan gynnwys Sir Benfro, ar 17 Medi 2023.

Fodd bynnag, mewn rhai mannau, ni fydd terfyn cyflymder o 20mya yn briodol nac yn ymarferol.

Yn y lleoliadau hyn, gall y terfyn cyflymder o 30mya barhau ar sail proses 'eithriadau', a fydd yn cael ei chyflwyno drwy Orchmynion Rheoleiddio Traffig (TRO).

Mae Cyngor Sir Penfro wedi cynnig saith ar hugain o eithriadau 20mya ar draws rhwydwaith ffyrdd y sir, ar ôl adolygu’r meini prawf a gofyn am adborth lleol.

 

Agorodd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar yr eithriadau arfaethedig ar 17 Mai ac mae'n cau am hanner nos ddydd Mercher, 7 Mehefin.

Bydd yr ymgynghoriad hefyd yn gofyn am farn y cyhoedd ar gyfyngiadau cyflymder arfaethedig o 20mya ar y ffyrdd 30mya hynny yn Sir Benfro na fyddant yn awtomatig yn ddiofyn yn 20mya ym mis Medi gan nad ydynt wedi’u dosbarthu yn 'ffyrdd cyfyngedig' (gelwir y ffyrdd hyn yn 30mya drwy orchymyn).

Gellir gweld yr eithriadau arfaethedig a'r terfynau arfaethedig o 20mya yn: Gweld map | MapDataCymru (llyw.cymru) neu'n bersonol yn nerbynfa Neuadd y Sir.

Sut i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad:

Ar-lein:

Bydd aelodau o'r cyhoedd yn gallu cymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar-lein tan hanner nos ddydd Mercher 7 Mehefin ar wefan y Cyngor yn Rheoleiddio Traffig Ffyrdd - Cyngor Sir Benfro (sir-benfro.gov.uk)

Yn bersonol:

Bydd dogfennau hefyd ar gael i'w gweld yn Neuadd y Sir yn Hwlffordd tan 5pm ddydd Mercher 7 Mehefin. Mae gliniadur wedi ei osod yn y dderbynfa ac mae aelod o'r Tîm Traffig ar gael o 0900 – 1700 o ddydd Llun i ddydd Iau, a 0900 – 16:30 ddydd Gwener i gynorthwyo aelodau'r cyhoedd yn bersonol os oes angen.