Uwchgynhadledd Trechu Tlodi yn canolbwyntio ar wella canlyniadau yn Sir Benfro
Tackling Poverty Summit focuses on improving outcomes in Pembrokeshire
Daeth cynrychiolwyr ystod o grwpiau a sefydliadau ar draws y Sir ynghyd i drafod trechu tlodi yn Sir Benfro mewn uwchgynhadledd arbennig y mis hwn.
Y nod oedd taflu goleuni ar rai materion allweddol yn ymwneud â thlodi, yn enwedig yn Sir Benfro, a’r ymateb cyfunol i gefnogi rhai o aelodau mwyaf agored i niwed ein cymunedau.
Croesawodd Uwchgynhadledd Trechu Tlodi agoriadol Cyngor Sir Benfro uwch arweinwyr yn Sir Benfro, ynghyd â siaradwyr o gyrff cenedlaethol gan gynnwys Sefydliad Bevan a National Energy Action (NEA), i Goleg Sir Benfro.
Gwahoddwyd Pennaeth Polisi Sefydliad Bevan, sef Dr Steffan Evans, i siarad am sut maen nhw’n gweithio i roi terfyn ar dlodi yng Nghymru, ac amlinellwyd y strategaeth leol gan Bennaeth Gwasanaethau Plant Cyngor Sir Penfro, sef Darren Mutter.
Roedd pwyslais pwysig ar dlodi fel mater iechyd cyhoeddus, yn ogystal â phrofiad bywyd yn Sir Benfro, a gyflwynwyd drwy ymchwil a gomisiynwyd ar y cyd gan Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro (PAVS) a Chyngor Sir Penfro.
.
Dywedodd Mr Mutter: “Mae gwaith y grŵp trechu tlodi yn allweddol i geisio troi llanw tlodi yn Sir Benfro, ond yr ymdrech ar y cyd ar draws pob sefydliad yn Sir Benfro yw’r hyn a fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn. Nododd y digwyddiad agoriadol hwn ddechrau’r hyn a fydd, gobeithio, yn ymwybyddiaeth gynyddol o dlodi yn y sir ac ymateb amlasiantaethol iddo.”
Yn y digwyddiad a noddwyd gan Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau, roedd detholiad o stondinau gwybodaeth a oedd yn arddangos gwaith lleol a gwasanaethau sy’n gweithio i drechu tlodi, gan gynnwys FRAME, Gweithredu dros Blant ac Age Cymru, a gwerthodd dysgwyr Coleg Sir Benfro gawl i godi arian ar gyfer banc bwyd lleol.
Dywedodd y Cynghorydd Prior, Aelod y Cabinet dros Welliant Corfforaethol a Chymunedau: “Roedd hwn yn gyfle pwysig i ddod â gwasanaethau cyhoeddus at ei gilydd o bob rhan o’r sir i archwilio a chyfrannu at drechu tlodi a’i achosion sylfaenol ar y cyd.”
"Rydym yn ddiolchgar iawn i'r bobl hynny a wirfoddolodd i rannu eu profiad bywyd gyda ni yn yr ymchwil yma sy'n seiliedig ar naratif, a ddefnyddiwyd fel sail ar gyfer cynllun a gynhyrchwyd ar y cyd ar gyfer trechu tlodi yn Sir Benfro. Edrychwn ymlaen at barhau i weithio gydag unigolion a grwpiau gwirfoddol i ddod o hyd i atebion a darparu cymorth i deuluoedd sy'n profi caledi ariannol," meddai Sue Leonard, Prif Swyddog PAVS.