English icon English
Openreach Van on road newgale

Uwchraddio cyflym iawn yn cryfhau cysylltedd digidol Sir Benfro

Ultrafast upgrades Strengthening Pembrokeshire’s Digital Connectivity

Gallai cynlluniau diweddaraf Openreach i uwchraddio band eang cyfredol i gysylltedd cyflym iawn ar gyfer cartrefi a busnesau cymwys o amgylch Aberllydan, Caeriw, Dale, Dinas Cross, Llandyfái a Maenorbŷr gychwyn yn fuan gyda chefnogaeth cynllun Talebau Gigabit Llywodraeth y DU.

Mae gan Openreach gynlluniau ar gyfer chwe ardal yn y sir yn rhan o gynllun ar gyfer band eang ffeibr llawn ac mae trigolion cymwys eisoes wedi dechrau addo Talebau Gigabit i ddod â band eang cyflym iawn i'r cymunedau hyn trwy wneud cais am a chyfuno eu  Talebau Gigabit Llywodraeth y DU sydd am ddim i helpu i ariannu'r gwaith gosod.

Mae'r uwchraddiadau band eang yn rhan annatod o gychwyn twf economaidd i fusnesau lleol, yn ogystal â sicrhau y gall pobl gael mynediad at wasanaethau hanfodol y gallai fod eu hangen arnynt nawr ac yn y dyfodol. Er enghraifft, gwella mynediad cleifion at ofal iechyd trwy apwyntiadau rhithwir a monitro iechyd o bell, i well cysylltedd sy'n caniatáu i bobl gadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau i frwydro yn erbyn unigedd.

Mae band eang cyflym iawn yn cynnig gwell cyflymder, ac ni fydd yn arafu yn ystod adegau prysur, gan olygu dim mwy o frwydro am led band, gall y teulu cyfan syrffio’r we, ffrydio a lawrlwytho'n ddi-dor ar yr un pryd.   

Er mwyn i'r gwaith fynd rhagddo, mae angen i Openreach gael y nifer bras o eiddo i gofrestru, sef 4,900. Yn ystod y cyfnod byr y mae'r system ymrwymo talebau wedi bod ar agor, mae'r ymateb wedi bod yn gadarnhaol iawn gyda'r nifer sy'n ymrwymo eu talebau tuag at y nod ariannu fel a ganlyn:

  • Aberllydan 64%
  • Caeriw 38%
  • Dale 49%
  • Dinas Cross 84%
  • Llandyfái 96%
  • Maenorbŷr 32%

Gall preswylwyr wirio a ydynt yn gymwys ac ymrwymo eu talebau ar wefan Cysylltu fy Nghymuned

Dwy fan a pheiriannydd i fyny polyn Newgale v2

Mae'r penderfyniad ar adeiladu'r seilwaith ffeibr, yr adeiladau a gwmpesir, a'r amserlen i gyd yn destun arolygon technegol, yn ogystal â nifer y talebau a addawyd gan y gymuned.

Nid yw'r talebau dilys yn costio dim i drigolion a bydd defnydd digonol yn galluogi Openreach i weithio gyda chymuned leol i adeiladu rhwydwaith wedi'i deilwra a'i ariannu ar y cyd. Gellir cyfuno’r talebau i ymestyn y rhwydwaith cyflym iawn, tra-ddibynadwy i adeiladau mewn ardaloedd gwledig anghysbell na fyddant yn cael eu cynnwys yn y buddsoddiad preifat.

Dywedodd Martin Williams, Cyfarwyddwr Partneriaethau Openreach yng Nghymru: “Rydym yn deall y rôl hanfodol y mae band eang dibynadwy yn ei chwarae wrth alluogi gweithio gartref a chefnogi busnesau yn Sir Benfro. Mae'r cynlluniau partneriaeth cymunedol hyn yn cynnig cyfle gwych i gymunedau gael mynediad at gyllid y llywodraeth. Ynghyd â buddsoddiad Openreach, gall y cyllid hwn drawsnewid seilwaith band eang yn ffeibr cyflym iawn a dibynadwy iawn i'r safle."

Pan fydd targed yr addewid ar gyfer y cynllun wedi’i fodloni, mae angen i drigolion sicrhau eu bod wedyn yn dilysu eu talebau gyda’r Llywodraeth fel y gall Openreach gadarnhau y gall gwaith ddechrau.

Fel rhan o'r amodau cyllido, gofynnir i breswylwyr ymrwymo i archebu gwasanaeth ffeibr llawn gan ddarparwr o'u dewis am o leiaf 12 mis pan fydd y rhwydwaith newydd ar gael a chadarnhau eu bod wedi'u cysylltu. 

Dywedodd y Cynghorydd Paul Miller, Dirprwy Arweinydd y Cyngor a'r Aelod Cabinet dros Leoedd, y Rhanbarth a Newid Hinsawdd: "Diolch i'r cynllun hwn, rydym wrth ein bodd o weld y chwe ardal yn Sir Benfro yn derbyn hyd yn oed mwy o ddarpariaeth band eang.

“Bydd hyn yn helpu i bontio'r rhaniad digidol a sicrhau bod gan y trigolion hynny fynediad at yr offer hanfodol sydd eu hangen arnynt i lwyddo yn yr economi heddiw. Mae Cyngor Sir Penfro wedi ymrwymo i gefnogi'r cynllun talebau hwn - ac rwy'n edrych ymlaen at weld cymunedau pellach ledled Sir Benfro yn cyrraedd lefelau hyd yn oed yn uwch o gysylltedd.”

 Mae rhwydweithiau ffeibr llawn yn darparu cysylltedd mwy dibynadwy, gwydn sy'n diogelu'r dyfodol; gan olygu llai o ddiffygion; cyflymderau mwy rhagweladwy, cyson a digon o gapasiti i fodloni gofynion data cynyddol yn hawdd. Mae hefyd yn addas ar gyfer y dyfodol, sy'n golygu y bydd yn gwasanaethu cenedlaethau i ddod ac na fydd angen ei uwchraddio am ddegawdau.

Os ydych yn byw yn Sir Benfro a bod gennych unrhyw gwestiynau am y cynllun talebau ewch i wefan Openreach i gael rhagor o wybodaeth am fand eang ffeibr Openreach.