pwyntio at gynlluniau gyda beiros

Uwchraddio'r system ceisiadau cynllunio ar y gweill

Planning application system upgrade underway

Rhannu:

Mae Gwasanaeth Cynllunio Cyngor Sir Penfro yn y broses o symud i system newydd ar gyfer ceisiadau cynllunio sydd yn y cwmwl, sydd i fod i fynd yn fyw ar 1 Rhagfyr.

Tra bod yr holl ddata o'r system bresennol yn cael ei symud i'r system newydd, well, bydd saib byr wrth gofrestru a phrosesu ceisiadau cynllunio a rheoli adeiladu, yn ogystal â chyhoeddi penderfyniadau.

Bydd y symudiad i system newydd yn y cwmwl yn darparu gwasanaeth mwy modern a gwydn i bob defnyddiwr.

O 5pm ddydd Mercher, 25 Tachwedd ni fydd ceisiadau a dderbynnir yn cael eu cofrestru na'u prosesu nes bod y system newydd yn fyw llai nag wythnos yn ddiweddarach.

Yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 23 Tachwedd, bydd y tîm cynllunio yn cofrestru unrhyw geisiadau newydd a dderbynnir yr wythnos honno ar y system bresennol a bydd yn cyhoeddi penderfyniadau a ddisgwylir yn ystod y cyfnod o symud cyn symud y data, os bydd hynny’n bosibl.

Bydd mynediad darllen-yn-unig i'r Porth Dinasyddion, lle gall aelodau o'r cyhoedd weld ceisiadau cynllunio, yn parhau i fod ar gael trwy gydol y cyfnod pontio a gellir cyflwyno unrhyw ymatebion a sylwadau i'r ymgynghoriad o hyd drwy planning.support.team@pembrokeshire.gov.uk

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio a Phriffyrdd, y Cynghorydd Jacob Williams: "Er y gall y cyfnod pontio achosi rhywfaint o darfu tymor byr, bydd y system gynllunio newydd sy'n cael ei mabwysiadu, sy’n cael ei chynnal yn y cwmwl, yn llai tueddol o ddioddef diffoddiadau."